Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded.

2. Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr Arglwydd sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a'i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a'ch gwrthyd chwithau.

3. Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir Dduw, a heb offeiriad yn ddysgawdwr, a heb gyfraith.

4. Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra at Arglwydd Dduw Israel, a'i geisio ef, efe a geid ganddynt.

5. Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i'r hwn oedd yn myned allan, nac i'r hwn oedd yn dyfod i mewn: ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd.

6. A chenedl a ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd.

7. Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i'ch gwaith chwi.

8. A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o'r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr Arglwydd, yr hon oedd o flaen porth yr Arglwydd.

9. Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a'r dieithriaid gyda hwynt, o Effraim a Manasse, ac o Simeon: canys hwy a syrthiasant ato ef yn aml o Israel, pan welsant fod yr Arglwydd ei Dduw gydag ef.

10. Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem, yn y trydydd mis, yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.

11. A hwy a aberthasant i'r Arglwydd y dwthwn hwnnw, o'r anrhaith a ddygasent, saith gant o eidionau, a saith mil o ddefaid.

12. A hwy a aethant dan gyfamod i geisio Arglwydd Dduw eu tadau, â'u holl galon, ac â'u holl enaid:

13. A phwy bynnag ni cheisiai Arglwydd Dduw Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fychan ac yn fawr, yn ŵr ac yn wraig.

14. A hwy a dyngasant i'r Arglwydd â llef uchel, ac â bloedd, ag utgyrn hefyd, ac â thrwmpedau.

15. A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw; canys â'u holl galon y tyngasent, ac â'u holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwy a'i cawsant ef: a'r Arglwydd a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch.

16. A'r brenhin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn: ac Asa a dorrodd ei delw hi, ac a'i drylliodd, ac a'i llosgodd wrth afon Cidron.

17. Ond ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel: eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef.

18. Ac efe a ddug i mewn i dŷ yr Arglwydd yr hyn a gysegrasai ei dad, a'r hyn a gysegrasai efe ei hun, arian, ac aur, a llestri.

19. Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.