Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.

2. Yna Asa a ddug allan arian, ac aur, o drysorau tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, ac a'i hanfonodd at Benhadad brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,

3. Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, fel y bu rhwng fy nhad i a'th dad dithau: wele, anfonais atat arian, ac aur; dos, tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.

4. A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn erbyn dinasoedd Israel, a hwy a drawsant Ijon, a Dan, ac Abel-maim, a holl drysor-ddinasoedd Nafftali.

5. A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama, ac a adawodd ei waith i sefyll.

6. Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda, a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama, a'i choed, â'r rhai yr adeiladai Baasa; ac a adeiladodd â hwynt Geba, a Mispa.

7. Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, ac a ddywedodd wrtho, Gan i ti roi dy bwys ar frenin Syria, ac na roddaist dy bwys ar yr Arglwydd dy Dduw, am hynny y dihangodd llu brenin Syria o'th law di.

8. Onid oedd yr Ethiopiaid a'r Lubiaid yn llu dirfawr, â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn? ond am i ti roi dy bwys ar yr Arglwydd, efe a'u rhoddodd hwynt yn dy law di.

9. Canys y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaear, i'w ddangos ei hun yn gryf gyda'r rhai sydd a'u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny rhyfeloedd fydd i'th erbyn o hyn allan.

10. Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a'i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o'r bobl y pryd hwnnw.

11. Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a'r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

12. Ac Asa a glafychodd o'i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o'i deyrnasiad, nes i'w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd, ond y meddygon.

13. Ac Asa a hunodd gyda'i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad.

14. A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau mawr iawn.