Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna holl bobl Jwda a gymerasant Usseia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.

2. Efe a adeiladodd Eloth, ac a'i dug hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o'r brenin gyda'i dadau.

3. Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem.

4. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef.

5. Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a'r dyddiau y ceisiodd efe yr Arglwydd, Duw a'i llwyddodd ef.

6. Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid.

7. A Duw a'i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid, y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal, a'r Mehuniaid.

8. A'r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a'i enw ef a aeth hyd y mynediad i'r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr.

9. Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y glyn, ac wrth droad y mur, ac a'u cadarnhaodd hwynt.

10. Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydewau lawer; oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid, yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd: a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd, ac yn Carmel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear.

11. Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt, trwy law Jeiel yr ysgrifennydd, a Maaseia y llywydd, dan law Hananeia, un o dywysogion y brenin.

12. Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant.

13. A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus, tri chan mil a saith mil a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynorthwyo'r brenin yr erbyn y gelyn.

14. Ac Usseia a ddarparodd iddynt, sef i'r holl lu, darianau, a gwaywffyn, a helmau, a llurigau, a bwâu, a thaflau i daflu cerrig.

15. Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a'i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.

16. Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i'w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw: ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogldarthu ar allor yr arogl-darth.

17. Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd, yn feibion grymus:

18. A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i'r Arglwydd, ond i'r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o'r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr Arglwydd Dduw.

19. Yna y llidiodd Usseia, a'r arogl-darth i arogldarthu oedd yn ei law ef: a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid, gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef, yng ngŵydd yr offeiriaid yn nhŷ yr Arglwydd, gerllaw allor yr arogl-darth.

20. Ac edrychodd Asareia yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid arno ef, ac wele, yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno: ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan, oherwydd i'r Arglwydd ei daro ef.

21. Ac Usseia y brenin a fu wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neilltuol; canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr Arglwydd: a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ y brenin, yn barnu pobl y wlad.

22. A'r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diwethaf Usseia, a ysgrifennodd Eseia y proffwyd mab Amos.

23. Felly Usseia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef gyda'i dadau ym maes beddrod y brenhinoedd; canys dywedasant, Gwahanglwyfus ydyw efe. A Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.