Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Ond pan aeth fy mab i mewn i'w ystafell briodas, syrthiodd yn farw.

2. Diffoddasom bawb ei lamp, a chododd fy nghymdogion oll i'm cysuro; arhosais innau'n dawel hyd nos drannoeth.

3. Wedi iddynt hwy oll roi'r gorau i'w cais i'm cysuro a'm cadw'n dawel, codais liw nos a ffoi, a dod, fel y gweli, i'r maes hwn.

4. A'm bwriad yw peidio â dychwelyd mwyach i'r ddinas, ond aros yma, heb fwyta nac yfed, a galaru ac ymprydio yn ddi-baid hyd angau.”

5. Yna torrais ar draws dilyniant fy myfyrdodau, ac atebais hi yn ddig fel hyn:

6. “Ti, y ffolaf o'r holl wragedd, onid wyt yn gweld ein galar ni, a'r pethau sydd wedi digwydd inni?

7. Y mae Seion, ein mam ni oll, yn llawn tristwch ac wedi ei llwyr ddarostwng; am hynny y dylid galaru'n ddwys.

8. Ond yn awr, a chennym ni oll reswm yn hyn i alaru a bod yn brudd a chennym ni oll reswm yn hyn i dristáu, dyma ti yn tristáu am un mab.

9. Gofyn i'r ddaear, ac fe ddywed hi wrthyt mai hi yw'r un a ddylai alaru, oherwydd y nifer mawr o bobl a enir arni hi.

10. Oddi wrthi hi y cafodd pawb oll eu dechreuad, ac y mae eraill eto i ddod; a dyma hwy i gyd bron yn cerdded i'w distryw, ac yn mynd yn llu i'w tranc.

11. Pwy, felly, a ddylai alaru fwyaf? Onid y ddaear, a gollodd liaws mor fawr, yn hytrach na thi, nad wyt yn galaru ond am un person?

12. Dichon y dywedi wrthyf, ‘Nid yw fy ngalarnad i yn debyg i alarnad y ddaear, oherwydd fe gollais i ffrwyth fy nghroth fy hun, a ddygais i'r byd mewn gwewyr ac yr esgorais arno â phoenau;

13. ond y mae'r ddaear yn gweithredu yn ôl ffordd y ddaear, a'r lliaws sy'n bresennol arni yn ymadael yn yr un modd ag y daethant.’ Fy ateb i yw hyn:

14. fel y bu i ti trwy boen roi genedigaeth, yn yr un modd y rhoes y ddaear o'r dechreuad ei ffrwyth, sef y ddynol ryw, i'w Chreawdwr.

15. Yn awr, felly, cadw dy ofid i ti dy hun, a dioddef yn wrol y trallodion a ddaeth arnat.

16. Oherwydd os derbynni di fod dyfarniad Duw yn gyfiawn, ymhen amser fe gei dy fab yn ôl, a bydd iti glod ymhlith gwragedd.

17. Dos, felly, i'r ddinas at dy ŵr.”

18. “Na wnaf,” atebodd hithau, “nid af i mewn i'r ddinas, ond byddaf farw yma.”

19. Ond deliais ati i siarad â hi, fel hyn:

20. “Paid â chyflawni'r bwriad hwn,” meddwn, “ond cymer dy ddarbwyllo o achos trallodion Seion, ac ymgysura o achos adfyd Jerwsalem.

21. Oherwydd yr wyt yn gweld fel y mae ein cysegr wedi ei anghyfanheddu, ein hallor wedi ei dymchwel, a'n teml wedi ei dinistrio.

22. Y mae ein telyn dan draed, ein hemyn yn fud, a'n llawenydd wedi darfod; diffoddwyd golau ein canhwyllbren, cipiwyd ymaith arch ein cyfamod, halogwyd ein llestri sanctaidd, a dygwyd gwarth ar yr enw y'n gelwir wrtho; y mae ein pendefigion wedi dioddef amarch, ein hoffeiriaid wedi eu llosgi, ein Lefiaid wedi ymadael mewn caethiwed, ein morynion wedi eu halogi a'n gwragedd wedi eu treisio, ein gwŷr cyfiawn wedi eu dwyn ymaith, ein plant wedi eu gadael, ein gwŷr ifainc wedi eu gwneud yn gaethweision, a'n dewrion wedi eu gwneud yn ddirym.

23. A gwaeth na dim yw'r hyn a ddigwyddodd i sêl gogoniant Seion, oherwydd bellach y mae wedi ei difreinio o'i gogoniant, a'i throsglwyddo i ddwylo'r rhai sydd yn ein casáu.

24. Tithau, felly, bwrw ymaith dy fawr dristwch, a rho o'r neilltu dy lu trallodion, er mwyn i'r Duw nerthol ddangos ei ffafr iti, ac i'r Goruchaf roi iti lonyddwch a gorffwys oddi wrth dy drafferthion.”

25. Yna'n sydyn hollol, wrth imi siarad â hi, dyma'i hwyneb yn fflachio a'i gwedd yn melltennu, fel y dychrynais rhagddi a'm holi fy hun beth oedd hyn.

26. Ac yn sydyn dyma hi'n gollwng gwaedd groch a brawychus, nes i'r ddaear grynu gan y sŵn.

27. Edrychais i fyny, ac nid y wraig a welwn mwyach, ond dinas yn cael ei hadeiladu ar sylfeini mawrion. Cefais fraw, a gwaeddais â llais uchel fel hyn:

28. “Ble mae'r angel Uriel, a ddaeth ataf yn y dechrau? Oherwydd ef a barodd imi yr holl ddryswch meddwl hwn. Gwnaethpwyd llygredigaeth yn ddiwedd imi, a throwyd fy ngweddi yn gerydd.”

Uriel yn Dehongli'r Weledigaeth

29. A minnau'n llefaru'r geiriau hyn, dyma'r angel a ddaethai ataf yn y dechrau yn cyrraedd. Pan welodd fi'n

30. gorwedd fel dyn marw, a'm meddwl wedi ei ddrysu, gafaelodd yn fy llaw dde a'm cyfnerthu; cododd fi ar fy nhraed, a dweud:

31. “Beth sy'n bod arnat? Beth yw achos dy gynnwrf? Pam y mae dy ddeall, a theimladau dy galon, wedi eu cynhyrfu?”

32. “Am i ti fy llwyr adael i,” atebais innau. “Oherwydd yr wyf wedi gwneud yr hyn a ddywedaist wrthyf: deuthum allan i'r maes; ac ar fy ngwir, gwelais—a gwelaf o hyd—bethau na allaf eu hadrodd.”Meddai ef wrthyf:

33. “Saf ar dy draed fel dyn, ac fe egluraf hyn i ti.”

34. “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau; “yn unig paid â'm gadael i farw yn ddibwrpas.

35. Oherwydd yr wyf wedi gweld pethau, ac yr wyf yn clywed pethau sydd y tu hwnt i'm dirnadaeth—

36. os nad yw fy synhwyrau'n methu a minnau'n breuddwydio.

37. Felly rwy'n crefu arnat yn awr egluro'r dryswch hwn i'th was.”

38. Atebodd ef fi: “Gwrando arnaf fi, ac fe'th ddysgaf, ac egluraf iti ynglŷn â'r pethau yr wyt yn eu hofni, oherwydd y mae'r Goruchaf wedi datguddio dirgelion lawer iti.

39. Oherwydd gwelodd dy ffordd uniawn, dy dristwch parhaus am dy bobl a'th fawr alar dros Seion.

40. Dyma, felly, yr esboniad ar y weledigaeth. Ychydig amser yn ôl ymddangosodd gwraig iti,

41. ac fe'i gwelaist hi'n galaru, a dechreuaist ei chysuro;

42. ond erbyn hyn nid ffurf y wraig yr wyt yn ei gweld, ond ymddangosodd iti ddinas yn cael ei hadeiladu.

43. Ac ynglŷn â'r hyn a ddywedodd hi wrthyt am dynged ei mab, dyma'r eglurhad.

44. Seion yw'r wraig hon a welaist, ac yr wyt yn ei chanfod yn awr fel dinas wedi ei hadeiladu.

45. Dywedodd hi wrthyt iddi fod yn ddiffrwyth am ddeng mlynedd ar hugain; yr eglurhad ar hynny yw i dair mil o flynyddoedd fynd heibio yn hanes y byd cyn bod offrymu yn Seion.

46. Yna, ar ôl y tair mil o flynyddoedd adeiladodd Solomon y ddinas ac offrymu offrymau: dyna'r amser pan roddodd y wraig ddiffrwyth enedigaeth i'w mab.

47. Ynglŷn â'r hyn a ddywedodd wrthyt, iddi ei feithrin ef yn ofalus, hwnnw oedd y cyfnod pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd.

48. Ac ynglŷn â'r hyn a ddywedodd wrthyt am farwolaeth ei mab, wrth iddo fynd i mewn i'w ystafell briodas, ac am y trallod a ddaeth arni, dyna'r dinistr a ddaeth ar Jerwsalem.

49. Dyma, ynteu, y gyffelybiaeth a welaist ti—y wraig yn galaru am ei mab, a thithau'n dechrau ei chysuro o achos yr hyn a ddigwyddodd iddi. Dyma'r pethau yr oedd yn rhaid eu datguddio i ti.

50. A chan fod y Goruchaf yn gweld dy dristwch enaid a'th ing calon drosti, y mae ef yn awr yn dangos i ti ei disgleirdeb gogoneddus a'i thegwch ysblennydd.

51. Dyna'r rheswm y gorchmynnais iti aros mewn maes lle nad oes tŷ wedi ei adeiladu,

52. oherwydd fod y Goruchaf ar fedr dangos y pethau hyn iti.

53. Felly dywedais wrthyt am ddod i faes lle nad oes sylfaen wedi ei gosod ar gyfer unrhyw adeilad.

54. Oherwydd ni allai unrhyw adeilad o waith dyn sefyll yn y fan lle'r oedd dinas y Goruchaf i gael ei datguddio.

55. Felly paid ag ofni na gadael i'th galon arswydo, ond dos i mewn, ac i'r graddau y gall dy lygaid eu gweld, gwêl wychder a maint yr adeiladau.

56. Ar ôl hynny, cei glywed cymaint ag y mae dy glustiau yn abl i'w glywed.

57. Oherwydd yr wyt ti yn uwch dy wynfyd na'r lliaws, a chennyt enw gyda'r Goruchaf nad oes gan fwy nag ychydig.

58. Ond aros yma hyd nos yfory,

59. ac mewn breuddwydion fe ddengys y Goruchaf iti weledigaethau o'r pethau y bydd ef yn eu gwneud i'r rhai fydd yn trigo ar y ddaear yn y dyddiau diwethaf.”

60. Felly, yn unol â'r gorchymyn a gefais ganddo, cysgais y nos honno a nos drannoeth.