Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae di, Fabilon, ac Asia hefyd! Gwae di, yr Aifft, a Syria!

2. Ymwregyswch â sachliain a blew geifr, galarwch a thristewch dros eich plant, oherwydd y mae eich distryw gerllaw.

3. Y mae'r cleddyf wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w droi ymaith?

4. Y mae tân wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w ddiffodd?

5. Y mae drygau wedi eu gollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w gyrru yn eu hôl?

6. A all unrhyw un yrru llew newynog yn ei ôl mewn coedwig, neu ddiffodd tân mewn sofl unwaith y bydd wedi dechrau ffaglu?

7. A all unrhyw un droi yn ei ôl saeth a yrrwyd gan saethwr cryf?

8. Yr Arglwydd Dduw sy'n gyrru'r drygau, a phwy sydd i'w troi yn eu hôl?

9. Bydd tân yn mynd allan o'i lid ef, a phwy sydd i'w ddiffodd?

10. Bydd yn melltennu, a phwy nid ofna? Bydd yn taranu, a phwy nid arswyda?

11. Yr Arglwydd fydd yn bygwth, a phwy ni lethir yn llwyr yn ei ŵydd ef?

12. Crynodd y ddaear o'i sylfeini, a'r môr yn ymchwyddo o'i ddyfnderoedd, a'r tonnau a'r pysgod sydd ynddo yn gyffro i gyd yng ngŵydd yr Arglwydd a gogoniant ei nerth.

13. Oherwydd nerthol yw deheulaw yr hwn sy'n anelu'r bwa, a llym yw'r saethau a ollyngir ganddo, ac unwaith ar eu ffordd ni ddiffygiant nes cyrraedd terfynau eithaf y ddaear.

14. Wele ddrygau ar eu ffordd, ac ni bydd troi arnynt nes mynd ar hyd y ddaear.

15. Y mae'r tân yn cynnau, ac ni ddiffoddir ef nes iddo ddinistrio sylfeini'r ddaear.

16. Fel nad yw saeth a ollyngir gan saethwr cydnerth yn dychwelyd, felly hefyd ni bydd troi'n ôl ar y drygau a ollyngir ar y ddaear.

17. Gwae fi, gwae fi! Pwy a'm gwared yn y dyddiau hynny?

18. Dechrau gwaeau, a bydd ochneidio mawr; dechrau newyn, a bydd llawer yn marw; dechrau rhyfeloedd, a bydd pwerau yn ofni; dechrau drygau, a bydd pawb yn crynu. Beth a wna neb, felly, pan ddaw'r drygau yn eu grym?

19. Dyna newyn a phla, cystudd a chyni, wedi eu hanfon yn fflangellau i gywiro pobl.

20. Eto, ynghanol hyn i gyd, ni thrônt oddi wrth eu drygioni, na chadw'r fflangellau mewn cof yn hir.

21. Bydd bwydydd mor rhad ar y ddaear fel y cred y bobl fod eu ffyniant yn sicr, ond dyna'r union adeg y bydd drygau'n blaguro ar y ddaear—cleddyf, newyn a therfysg mawr.

22. Bydd mwyafrif trigolion y ddaear yn marw o newyn; a'r gweddill, y rhai a ddihangodd rhag y newyn, yn cael eu difa gan gleddyf.

23. A theflir allan y meirw fel tail, ac ni bydd neb i gynnig cysur; oherwydd gadewir y ddaear yn anghyfannedd a'i dinasoedd yn adfeilion.

24. Ni bydd neb ar ôl i drin y tir a'i hau.

25. Bydd y coed yn dwyn eu ffrwythau, ond pwy fydd i'w cynaeafu?

26. Bydd y grawnwin yn aeddfedu, ond pwy fydd i'w sathru? Oherwydd bydd y broydd yn anghyfannedd hollol;

27. bydd un dyn yn hiraethu am weld rhywun arall neu glywed ei lais.

28. Oherwydd o ddinas gyfan gadewir deg; yng nghefn gwlad dau fydd ar ôl, yn ymguddio yn y fforestydd trwchus ac yn agennau'r creigiau.

29. Fel y gadewir tri neu bedwar olif ar bob coeden mewn perllan olewydd,

30. neu fel y gadewir rhai sypiau o rawnwin ar ôl mewn gwinllan hyd yn oed ar ôl ei chwilio'n ofalus gan gasglwyr llygatgraff,

31. felly yn y dyddiau hynny gadewir tri neu bedwar ar ôl gan y rhai fydd yn chwilio'r tai i ladd eu trigolion â'r cleddyf.

32. Gadewir y ddaear yn anghyfannedd, a meddiennir y meysydd gan ddrysni; bydd drain yn tyfu ar ffyrdd a holl lwybrau'r ddaear, am na bydd defaid yn eu tramwyo.

33. Bydd morynion yn galaru am nad oes ganddynt ddarpar-wŷr, bydd gwragedd yn galaru am nad oes ganddynt wŷr, a'u merched yn galaru am nad oes iddynt neb i'w cynnal.

34. Lleddir darpar-wŷr y naill yn y rhyfel, a bydd gwŷr y lleill yn marw o newyn.

Pobl Dduw yn Paratoi ar gyfer y Diwedd

35. Ond gwrandewch y geiriau hyn, chwi wasanaethyddion yr Arglwydd, a'u hystyried yn fanwl.

36. Dyma air yr Arglwydd; derbyniwch ef, a pheidiwch ag amau yr hyn sydd gan yr Arglwydd i'w ddweud.

37. Yn wir, y mae'r drygau yn agos; nid oes dal yn ôl arnynt.

38. Pan yw gwraig feichiog yn ei nawfed mis, a'i hamser i esgor yn agos, bydd poenau arteithiol yn ei chroth am ddwy neu dair awr; ond yna, pan yw'r baban yn dod allan o'r groth, ni all hi ddal ei phlentyn yn ôl am un munudyn.

39. Felly y daw'r drygau allan dros y ddaear yn ddi-oed, a bydd y byd yn griddfan gan y poenau sy'n ei ddal o bob tu.

40. Gwrandewch ar y gair, fy mhobl; ymbaratowch ar gyfer y frwydr, ac ynghanol y drygau byddwch fel dieithriaid ar y ddaear.

41. Gwertha fel un ar ffo, a phryna fel un ar dranc;

42. masnacha fel un heb obaith am elw, ac adeilada dŷ fel un sydd heb obaith byw ynddo.

43. Heua fel un na chaiff fedi, a'r un modd tocia'r gwinwydd fel un na wêl y grawnwin.

44. Priodwch fel rhai na fydd iddynt blant, a byddwch heb briodi fel rhai a fydd yn weddwon.

45. Felly y mae'r rhai sy'n llafurio yn llafurio'n ofer;

46. estroniaid fydd yn medi eu ffrwyth hwy, gan ysbeilio eu cyfoeth a dymchwel eu tai, a chaethiwo'u meibion, oherwydd mewn caethiwed a newyn y maent yn cenhedlu plant.

47. Nid yw arian yr arianwyr yn ddim ond ysbail; po fwyaf yr addurnant eu dinasoedd, eu tai, eu meddiannau a'u cyrff eu hunain,

48. mwyaf oll y byddaf finnau'n ddig wrthynt am eu pechodau, medd yr Arglwydd.

49. Fel dicter gwraig barchus, rinweddol tuag at butain,

50. felly y bydd dicter cyfiawnder tuag at anghyfiawnder a'i holl addurniadau; fe'i cyhudda wyneb yn wyneb, pan ddaw pleidiwr yr un sy'n chwilio allan bob pechod ar y ddaear.

51. Felly peidiwch ag efelychu anghyfiawnder na'i weithredoedd.

52. Oherwydd mewn byr amser fe'i symudir oddi ar y ddaear, a chyfiawnder fydd yn llywodraethu arnom.

53. Peidied y pechadur â dweud nad yw wedi pechu, oherwydd llosgir marwor tanllyd ar ben yr un sy'n dweud, “Nid wyf fi wedi pechu gerbron Duw a'i ogoniant ef.”

54. Yn sicr y mae'r Arglwydd yn gwybod am holl weithredoedd dynion, eu cynlluniau, a'u bwriadau, a'u meddyliau dyfnaf.

55. Dywedodd ef, “Bydded daear,” a daeth i fod; a “Bydded nef,” a daeth hithau i fod.

56. Yn unol â'i air ef y gosodwyd y sêr yn eu lle, ac y mae eu nifer hwy yn hysbys iddo.

57. Y mae ef yn chwilio'r dyfnderoedd a'u trysorfeydd; y mae wedi mesur y môr a'i gynnwys.

58. Â'i air cyfyngodd ef y môr oddi mewn i derfynau'r dyfroedd, a gosod y ddaear ynghrog uwchben y dŵr.

59. Taenodd ef y nef fel cronglwyd, a'i sefydlu goruwch y dyfroedd.

60. Gosododd ffynhonnau dŵr yn yr anialwch, a llynnoedd ar ben y mynyddoedd i ollwng afonydd i lawr o'r ucheldir i ddyfrhau'r ddaear.

61. Lluniodd ef ddyn, a gosod calon yng nghanol ei gorff; rhoddodd ynddo ysbryd a bywyd a deall,

62. ynghyd ag anadl y Duw Hollalluog, a greodd bob peth ac sy'n chwilio pethau cuddiedig mewn mannau dirgel.

63. Yn ddiau y mae hwn yn gwybod am eich cynllun chwi, ac am fwriadau eich meddwl. Gwae'r pechaduriaid a'r rhai sy'n dymuno cuddio'u pechodau!

64. Am hynny bydd yr Arglwydd yn chwilio'n fanwl eu holl weithredoedd hwy, a pheri i chwi i gyd gywilyddio.

65. Gwaradwydd fydd i chwi pan ddaw eich pechodau allan yn agored gerbron pawb; bydd eich anghyfiawnderau yn sefyll i'ch cyhuddo yn y dydd hwnnw.

66. Beth a wnewch chwi? Sut y gallwch guddio'ch pechodau oddi wrth Dduw a'i angylion?

67. Duw yn wir yw'r barnwr; ofnwch ef! Rhowch y gorau i'ch pechu, a rhowch heibio eich anghyfiawnderau, i beidio â'u cyflawni byth mwy. Yna daw Duw â chwi allan, a'ch rhyddhau o'ch holl drallodion.

68. Oherwydd yn wir y mae llu mawr â'u hawch amdanoch ar dân; fe gipiant ymaith rai ohonoch, a'ch bwydo â bwyd a offrymwyd i eilunod.

69. Caiff y rhai sy'n ildio iddynt eu gwatwar ganddynt, a'u diystyru, a'u sathru dan draed.

70. Mewn lle ar ôl lle a thrwy'r dinasoedd cyfagos, cyfyd erledigaeth chwyrn ar y rhai sy'n ofni'r Arglwydd.

71. Fel dynion gorffwyll, ni fyddant yn arbed neb wrth anrheithio a difrodi'r rhai sy'n dal i ofni'r Arglwydd.

72. Oherwydd difrodant ac anrheithiant eu cyfoeth, a'u bwrw allan o'u cartrefi.

73. Yna bydd yn amlwg fod fy etholedigion wedi eu profi, fel aur sy'n cael ei brofi yn y tân.

74. “Gwrandewch, fy etholedigion,” medd yr Arglwydd, “dyma ddyddiau'r cyfyngder wedi dod, ond fe'ch gwaredaf chwi ohonynt.

75. Peidiwch ag ofni na phetruso, oherwydd Duw yw eich arweinydd chwi.

76. Chwi sy'n cadw fy neddfau a'm gorchmynion i,” medd yr Arglwydd Dduw, “peidiwch â gadael i'ch pechodau gael y gorau arnoch, nac i'ch anghyfiawnderau gael y trechaf arnoch.

77. Gwae'r rhai sydd yn rhwym gan eu pechodau ac wedi eu gorchuddio gan eu hanghyfiawnderau. Y maent fel maes wedi ei oresgyn gan lwyni, a'i lwybr wedi ei orchuddio gan ddrain, heb ffordd i ddyn fynd trwyddo;

78. fe'i caeir, a'i draddodi i'w ddifa â thân.”