Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl imi orffen llefaru'r geiriau hyn, anfonwyd ataf yr angel a anfonasid ataf y nosweithiau blaenorol.

2. “Cod, Esra,” meddai wrthyf, “a gwrando ar y geiriau y deuthum i'w llefaru wrthyt.”

3. “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau.Meddai'r angel wrthyf: “Dychmyga fôr wedi ei osod mewn lle eang, ac yn ymestyn ar led heb derfyn iddo,

4. ond bod y ffordd i mewn iddo yn lle mor gul nes ymddangos fel afon.

5. Pe bai rhywun yn dymuno o ddifrif gyrraedd y môr, naill ai i'w weld neu i gael rheolaeth arno, sut y gallai gyrraedd y lle eang heb iddo'n gyntaf fynd trwy'r lle cul?

6. Neu eto, dychmyga ddinas wedi ei hadeiladu a'i safle ar dir gwastad, a'i llond o bopeth da,

7. ond bod y ffordd i mewn iddi yn gul a serth, gyda thân ar y dde a dyfnder o ddŵr ar y chwith,

8. a'r llwybr hwn rhyngddynt, sef rhwng y tân a'r dŵr, yn unig lwybr ati, a'i led heb fod yn ddim mwy na lled troed dyn.

9. Pe bai'r ddinas honno wedi ei rhoi yn etifeddiaeth i ryw ddyn, sut y gallai'r etifedd hwnnw feddiannu ei etifeddiaeth heb iddo'n gyntaf fynd trwy'r perygl a osodwyd o'i flaen?”

10. “Felly'n union, f'arglwydd,” atebais innau.Meddai yntau wrthyf: “Hyn hefyd yw rhan Israel.

11. Oherwydd er mwyn Israel y gwneuthum y byd; ond pan dorrodd Adda fy neddfau, daeth yr hyn a wnaethpwyd dan farn.

12. Gwnaed y ffyrdd i mewn i'r byd hwn yn gul a phoenus a thrafferthus; ychydig ydynt a gwael, yn llawn peryglon ac wedi eu pentyrru ag anawsterau mawr.

13. Ond y mae'r ffyrdd i mewn i'r byd helaethach yn eang a diogel, ac yn dwyn ffrwyth anfarwoldeb.

14. Felly os na bydd y rhai byw wedi mynd yn ddiogel trwy'r mannau cul a thwyllodrus hyn, ni allant feddiannu'r hyn a roddwyd ynghadw iddynt.

15. Pam, ynteu, yr wyt ti yn awr yn aflonyddu, a thithau'n llygradwy? Pam yr wyt yn cynhyrfu, a thithau'n feidrol?

16. A pham na roddaist le yn dy feddwl i'r hyn sydd i ddod, yn hytrach nag i'r hyn sy'n digwydd yn y presennol?”

17. “Atolwg, Arglwydd Iôr,” atebais innau, “deddfaist yn dy gyfraith fod y cyfiawn i etifeddu'r bendithion hyn, ond bod yr annuwiol i ddarfod amdanynt.

18. Felly bydd y cyfiawn yn dioddef y mannau cul mewn gobaith am yr eangderau; ond y rhai annuwiol eu buchedd, er iddynt ddioddef y mannau cul, ni chânt weld yr eangderau.”

Y Deyrnas Feseianaidd a'r Farn Olaf

19. Meddai yntau wrthyf: “Nid wyt ti'n well barnwr na Duw, nac yn fwy deallus na'r Goruchaf.

20. Darfydded, felly, am lawer o'r rhai sy'n byw yn awr, yn hytrach na bod cyfraith Duw, a osodwyd o'u blaen hwy, yn cael ei diystyru.

21. Oherwydd rhoddodd Duw orchmynion clir i bawb pan ddaethant i mewn i'r byd, beth oedd yn rhaid iddynt ei wneud i gael byw, a beth i'w ddilyn i osgoi cosb.

22. Ond ni ddarbwyllwyd hwy, a'i wrthwynebu ef a wnaethant: llunio iddynt eu hunain feddyliau ofer,

23. a dyfeisio'u hystrywiau dichellgar eu hunain; mynnu nad oedd bodolaeth i'r Goruchaf, a nacáu cydnabod ei ffyrdd ef;

24. dirmygu ei gyfraith ef a gwadu ei addewidion; gwrthod gosod eu ffydd yn ei ddeddfau, a pheidio â chyflawni'r gweithredoedd y mae ef yn gofyn amdanynt.

25. Am hynny, Esra, gwacter i'r gweigion a llawnder i'r llawnion!

26. Oherwydd wele, fe ddaw'r amser pan ddigwydd yr arwyddion yr wyf wedi eu rhagfynegi iti; fe ddaw'r ddinas, sydd yn awr yn anweladwy, i'r golwg, a'r tir, sydd yn awr yn guddiedig, i'r amlwg.

27. Pob un a waredwyd oddi wrth y drygau a ragfynegais, caiff hwnnw weld fy ngweithredoedd rhyfeddol i.

28. Oherwydd datguddir fy mab, y Meseia ynghyd â'r rhai sydd gydag ef, ac fe rydd ef lawenydd, yn parhau am bedwar can mlynedd, i'r rhai a adewir.

29. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd farw fy mab, y Meseia, ynghyd â phawb sydd ag anadl ynddynt.

30. Yna dychwelir y byd i'w ddistawrwydd cysefin am saith diwrnod, fel yn y dechreuad cyntaf, fel na adewir neb ar ôl.

31. Ac ar ôl saith diwrnod, deffroir yr oes nad yw hyd yma ar ddihun, a bydd farw yr oes lygradwy.

32. Bydd y ddaear yn rhoi'n ôl y rhai sy'n cysgu ynddi, a'r llwch y rhai sy'n trigo ynddo mewn distawrwydd; hefyd bydd yr ystafelloedd cudd yn rhoi'n ôl yr eneidiau a ymddiriedwyd iddynt hwy.

33. Datguddir y Goruchaf yn eistedd ar orseddfainc barn, ei dosturi ar ffo a'i hirymaros ar ben.

34. Barn yn unig fydd yn aros, gwirionedd fydd yn sefyll, a ffyddlondeb yn ymgryfhau.

35. Bydd tâl am waith yn dilyn, a'r wobr yn cael ei dangos; bydd gweithredoedd da ar ddihun, ac ni chaiff gweithredoedd drwg gysgu'n llonydd.

36. Yna daw pwll poenedigaeth i'r golwg, a chyferbyn ag ef bydd yr orffwysfa; amlygir ffwrnais Gehenna, a chyferbyn â hi baradwys llawenydd.

37. Yna fe ddywed y Goruchaf wrth y cenhedloedd a ddeffrowyd: ‘Edrychwch, a gwelwch pwy yr ydych wedi ei wadu, pwy yr ydych wedi gwrthod ei wasanaethu, gorchmynion pwy yr ydych wedi eu dirmygu.

38. Edrychwch yma, ac yna draw; yma y mae llawenydd a gorffwys, ond draw tân a phoenedigaeth.’

39. Dyna'r hyn a ddywed ef wrthynt ar Ddydd y Farn. Dydd tebyg i hyn fydd hwnnw: dydd heb na haul na lleuad na sêr;

40. heb na chwmwl na tharan na mellten; heb na gwynt na dŵr nac awyr; heb na thywyllwch na hwyr na bore;

41. heb na haf na gwanwyn na gwres; heb na gaeaf na rhew nac oerfel; heb na chenllysg na glaw na gwlith;

42. heb na chanol dydd na nos na gwawr; heb na disgleirdeb na llewyrch na goleuni; dim ond llewyrch ysblennydd y Goruchaf, y bydd pawb yn dechrau gweld wrtho beth a ragosodwyd iddynt.

43. Bydd y dydd yn parhau megis am wythnos o flynyddoedd.

44. Dyna'r farn, a'r drefn a osodais ar ei chyfer. I ti yn unig y dangosais y pethau hyn.”

Ychydig a Achubir

45. “Fe'i dywedais o'r blaen, f'arglwydd,” atebais innau, “ac rwy'n ei ddweud eto: Gwyn eu byd y rhai sy'n byw yn awr ac yn cadw dy ddeddfau di.

46. Ond beth am y rhai y gweddïais drostynt? Oherwydd pwy o blith y rhai sy'n byw yn awr sydd heb bechu, neu pwy o blith plant dynion sydd heb anwybyddu dy addewid?

47. Gwelaf yn awr mai i ychydig y bydd y byd a ddaw yn dwyn llawenydd, ond arteithiau i'r lliaws.

48. Oherwydd mynd ar gynnydd a wnaeth ein calon ddrwg, a'n dieithrio oddi wrth ffyrdd Duw; arweiniodd ni i lygredigaeth a ffyrdd marwolaeth; dangosodd inni lwybrau distryw, a'n pellhau oddi wrth fywyd. Hyn a fu, nid i ychydig, ond i bron bawb a grewyd.”

49. Atebodd ef fi fel hyn: “Gwrando arnaf fi, ac fe'th ddysgaf; af ymlaen ymhellach i'th gywiro di.

50. Y mae'r rheswm pam y creodd y Goruchaf nid un byd ond dau fel a ganlyn:

51. yr wyt wedi addef nad llawer ond ychydig yw'r cyfiawn, a bod yr annuwiol, yn wir, ar gynnydd. Felly, gwrando di ar hyn:

52. bwrw fod gennyt ychydig bach o feini gwerthfawr; a fyddit am ychwanegu atynt drwy roi plwm a chlai gyda hwy?”

53. “F'arglwydd,” meddwn innau, “sut y byddai hynny'n bosibl?”

54. “Ac nid hynny'n unig,” atebodd ef, “ond gofyn i'r ddaear, ac fe ddywed hi wrthyt; deisyf arni, ac fe draetha wrthyt.

55. Dywed wrthi: ‘Yr wyt ti'n cynhyrchu aur ac arian a chopr, haearn hefyd a phlwm a chlai.

56. Ond ceir mwy o arian nag o aur, mwy o gopr nag o arian, mwy o haearn nag o gopr, mwy o blwm nag o haearn, a mwy o glai nag o blwm.’

57. Ystyria, felly, drosot dy hun beth sy'n werthfawr ac i'w ddymuno, ai'r peth y mae llawer ohono ar gael, ai'r peth sy'n brin.”

58. “F'arglwydd feistr,” meddwn i, “y mae'r cyffredin yn llai ei werth, oherwydd po brinnaf y peth, gwerthfawrocaf yw.”

59. Atebodd yntau fi fel hyn: “Rho sylw gofalus i ystyr yr hyn y buost yn myfyrio arno: sef bod mwy o achos llawenhau gan y sawl sy'n berchen ar rywbeth anodd ei gael na chan y sawl sy'n berchen ar rywbeth cyffredin.

60. Felly hefyd y bydd y farn a addewais i; gorfoleddaf am yr ychydig a achubir, oherwydd hwy yw'r rhai sydd eisoes wedi peri i rym fy ngogoniant i fynd ar led, ac y maent eisoes wedi gwneud fy enw yn hysbys.

61. Ni ofidiaf am lu'r rhai a gollwyd; oherwydd hwy yw'r rhai sydd bellach wedi mynd yn debyg i darth, yn gyffelyb i fflam neu fwg, yn cynnau a llosgi a diffodd.”

62. Atebais innau: “Di ddaear, ar beth yr wyt wedi esgor, os o'r llwch y daeth deall dyn, fel popeth arall a grewyd?

63. Byddai'n well petai'r llwch ei hun heb ei eni, a deall dyn, felly, heb ddod ohono.

64. Ond yn awr y mae'n deall yn cyd-dyfu â ni, a chawn ninnau ein harteithio o wybod ein bod yn trengi.

65. Galared yr hil ddynol, ond llawenyched yr anifeiliaid gwylltion; galared holl blant dynion, ond gorfoledded y gwartheg a'r diadelloedd.

66. Y mae'n llawer gwell arnynt hwy nag yw arnom ni; oherwydd nid ydynt yn disgwyl barn, nac yn gwybod am na phoenedigaeth nac iachawdwriaeth yn addewid iddynt ar ôl marw.

67. Ond nyni, pa fudd yw inni ein bod i'n cadw'n fyw, dim ond i ddioddef arteithiau?

68. Oherwydd y mae'r ddynolryw i gyd yn gymysgedd o gamweddau, yn llawn pechodau ac wedi ei llwytho â gweithredoedd drwg.

69. Felly hwyrach y buasai'n well i ni pe na baem i ddod i farn ar ôl marw.”

70. Atebodd ef fi fel hyn: “Pan oedd y Goruchaf wrthi'n creu y byd ac Adda a'i holl ddisgynyddion, yn gyntaf oll fe drefnodd y Farn a'r hyn sy'n gysylltiedig â hi.

71. Yn awr, gelli amgyffred hyn ar sail dy eiriau dy hun; oherwydd dywedaist fod y deall yn cyd-dyfu â ni.

72. Y rheswm pam y poenydir preswylwyr y ddaear yw hyn: iddynt gyflawni camwedd er bod ganddynt ddeall; iddynt wrthod cadw'r gorchmynion er iddynt eu cael; ac er iddynt gael y gyfraith, iddynt ddirmygu'r hyn a dderbyniasant.

73. Beth felly a fydd ganddynt i'w ddweud yn y Farn, neu pa ateb a roddant yn yr amserau diwethaf?

74. Cyhyd o amser y bu'r Goruchaf yn amyneddgar tuag at drigolion y byd! A hynny nid er eu mwyn hwy, ond oherwydd yr amserau a ragordeiniodd ef.”

Ar ôl Marw

75. “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, f'arglwydd feistr,” atebais i, “gwna hyn hefyd yn eglur i'th was: ar ôl marw, pan fydd pob un ohonom o'r diwedd yn ildio'i enaid, a gawn ni ein cadw yn gorffwys nes dyfod yr amserau hynny pan fyddi'n dechrau adnewyddu'r greadigaeth, neu a yw ein poenedigaeth i ddechrau ar unwaith?”

76. Atebodd ef fi â'r geiriau hyn: “Dangosaf hynny hefyd iti; ond paid â'th gynnwys dy hun ymhlith y gwawdwyr, na'th gyfrif dy hun gyda'r rhai a boenydir.

77. Oherwydd y mae gennyt ti drysor o weithredoedd da wedi ei roi i gadw gyda'r Goruchaf, ond ni chaiff ei amlygu iti hyd at yr amserau diwethaf.

78. Ond dyma sydd i'w ddweud ynglŷn â marwolaeth: pan fydd y ddedfryd derfynol wedi mynd allan oddi wrth y Goruchaf bod rhywun i farw, y mae'r ysbryd yn ymadael â'r corff i ddychwelyd at yr Un a'i rhoes, ac y mae'n addoli gogoniant y Goruchaf yn gyntaf oll.

79. Ac os yw'n un o'r rheini a fu'n gwawdio ac yn gwrthod cadw ffordd y Goruchaf, yn dirmygu ei gyfraith ef ac yn casáu'r rhai sy'n ofni Duw,

80. ni chaiff ysbrydoedd felly fynd i mewn i'r trigfannau, ond o hynny ymlaen byddant yn crwydro mewn poenedigaethau, bob amser yn alarus a thrist, a hynny am saith rheswm.

81. Yn gyntaf, am iddynt ddiystyru ffordd y Goruchaf.

82. Yn ail, am na allant bellach wir edifarhau a chael byw.

83. Yn drydydd, fe welant y wobr sydd ynghadw ar gyfer y rhai a ymddiriedodd yng nghyfamodau'r Goruchaf.

84. Yn bedwerydd, byddant yn meddwl am y boenedigaeth sydd ynghadw ar eu cyfer hwy yn yr amserau diwethaf.

85. Yn bumed, gwelant angylion yn gwarchod trigfannau ysbrydoedd eraill mewn tawelwch mawr.

86. Yn chweched, gwelant eu bod hwy yn fuan i fynd i'w poenydio.

87. Yn seithfed—ac y mae'r rheswm hwn yn bwysicach na'r holl rai y soniwyd amdanynt eisoes—am y byddant yn nychu mewn siom, yn cael eu difa mewn cywilydd ac yn dihoeni mewn ofnau, pan welant ogoniant y Goruchaf; oherwydd pechu ger ei fron ef a wnaethant yn ystod eu bywyd, a cher ei fron ef hefyd y maent i gael eu barnu yn yr amserau diwethaf.

88. “Ond ynglŷn â'r rhai a gadwodd ffyrdd y Goruchaf, dyma drefn pethau pan ddaw'r amser iddynt hwy gael eu gwahanu oddi wrth eu llestr llygradwy.

89. Yn ystod eu hamser ar y ddaear buont yn ddyfal yn gwasanaethu'r Goruchaf ac yn dioddef perygl bob awr, er mwyn cadw cyfraith y Deddfwr yn berffaith.

90. Ar gyfrif hynny, dyma sydd i'w ddweud amdanynt hwy:

91. yn gyntaf oll cânt weld, â gorfoledd mawr, ogoniant yr Un sydd yn eu derbyn; ac yna ânt i'w gorffwys, a hynny ar hyd saith gris o orfoledd.

92. Yn gyntaf, cânt orfoleddu am iddynt ymdrechu, â llafur mawr, i orchfygu'r meddwl drwg sy'n gynhenid ynddynt, heb adael iddo eu llithio oddi wrth fywyd i farwolaeth.

93. Yn ail, cânt weld y dryswch y mae eneidiau'r annuwiol yn crwydro ynddo, a'r gosb sy'n eu haros.

94. Yn drydydd, gwelant y dystiolaeth iddynt a ddygwyd gan yr Un a'u lluniodd, eu bod hwy yn ystod eu bywyd wedi cadw'r gyfraith a ymddiriedwyd iddynt.

95. Yn bedwerydd, deallant y gorffwys y maent i'w fwynhau yn awr, a hwythau wedi eu cynnull ynghyd yn eu hystafelloedd cudd a'u gwarchod mewn tawelwch mawr gan angylion, a hefyd cânt ddeall y gogoniant sydd yn eu haros yn yr amserau diwethaf.

96. Yn bumed, gorfoleddant yn y modd y bu iddynt yn awr ddianc rhag y llygradwy, a'r modd y cânt dderbyn yr hyn sydd i ddod yn etifeddiaeth; hefyd gwelant y bywyd cyfyng a phoenus y rhyddhawyd hwy ohono, a'r bywyd eang y maent ar fedr ei dderbyn, i'w fwynhau heb farw mwy.

97. Yn chweched dangosir iddynt y modd y mae eu hwynebau i ddisgleirio fel yr haul, a'r modd y maent i'w gwneud yn debyg i oleuni'r sêr, yn anllygredig mwyach.

98. Yn seithfed—ac y mae'r gris hwn yn bwysicach na'r holl rai y soniwyd amdanynt eisoes—gorfoleddant â hyder, ymddiriedant heb siom, a llawenychant heb ofn; oherwydd y maent yn prysuro i edrych ar wyneb yr Un y buont yn ei wasanaethu yn ystod eu bywyd, ac y maent ar fedr derbyn ganddo eu gwobr mewn gogoniant.

99. Dyna drefn pethau ar gyfer eneidiau'r cyfiawn, ac o hyn allan y mae'n hysbys; cyn hynny soniais am ffyrdd poenedigaeth, sydd i'w dioddef o hyn allan gan y rhai a fu'n ddi-fraw.”

100. Atebais i fel hyn: “Pan fydd yr eneidiau wedi eu gwahanu oddi wrth y cyrff, a roddir cyfle iddynt weld yr hyn y buost yn ei ddisgrifio imi?”

101. Meddai ef wrthyf: “Caniateir iddynt saith diwrnod; am saith diwrnod cânt weld y pethau y soniwyd amdanynt eisoes; ar ôl hynny fe'u cynullir ynghyd yn eu trigfannau.”

Dydd y Farn

102. “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg,” atebais innau, “dangos hyn hefyd i mi, dy was: ar Ddydd y Farn, a fydd yn bosibl i'r cyfiawn eiriol dros yr annuwiol, neu ymbil ar y Goruchaf am faddeuant iddynt?

103. A all rhieni eiriol dros eu plant, neu blant dros eu rhieni? A all brodyr eiriol dros frodyr, neu berthnasau dros geraint, neu gyfeillion dros y rhai sydd anwylaf ganddynt?”

104. Atebodd ef fi fel hyn: “Yr wyt yn gymeradwy yn fy ngolwg, ac am hynny fe ddangosaf hyn hefyd i ti. Y mae Dydd y Farn yn derfynol ac yn dangos i bawb y sêl a roir ar wirionedd. Yn yr oes bresennol ni all tad anfon ei fab, neu fab ei dad, neu feistr ei gaethwas, neu gyfaill yr un sydd anwylaf ganddo, i fod yn glaf ar ei ran, neu i gysgu, neu i fwyta, neu i gael ei iacháu ar ei ran.

105. Yn yr un modd, ni all neb fyth eiriol dros rywun arall; oherwydd, yn y dydd hwnnw, bydd yn rhaid i bob unigolyn ddwyn baich ei weithredoedd drwg ei hun, neu faich ei weithredoedd da.”

106. [36] Atebais innau: “Sut, ynteu, y mae gennym dystiolaeth fod rhai wedi eiriol felly dros eraill? Yn gyntaf, dyna Abraham yn eiriol dros y Sodomiaid, ac yna Moses dros ein hynafiaid a bechodd yn yr anialwch.

107. [37] Ar ei ôl ef, dyna Josua yn eiriol dros Israel yn amser Achan,

108. [38] a Samuel yn amser Saul. Eto, dyna Ddafydd yn eiriol oherwydd yr haint ddinistriol, a Solomon dros y rhai a fyddai'n dod i'r cysegr.

109. [39] Beth am Elias yn eiriol dros y rhai a dderbyniodd law, a thros ddyn marw, iddo gael byw?

110. [40] Beth am Heseceia yn eiriol dros y bobl yn amser Senacherib, a llawer o enghreifftiau eraill?

111. [41] Felly os gallai'r cyfiawn bledio dros yr annuwiol yn yr oes bresennol, pan yw llygredd wedi tyfu ac anghyfiawnder wedi cynyddu, pam na all hynny ddigwydd yn y dydd hwnnw?”

112. [42] “Nid y byd presennol hwn yw'r diwedd,” atebodd ef, “ac nid yw gogoniant Duw yn aros ynddo yn barhaol; dyna'r rheswm pam y gweddïai'r rhai cryf dros y rhai gwan.

113. [43] Ond bydd Dydd y Farn yn ddiwedd yr oes bresennol, ac yn ddechrau i'r oes anfarwol sydd i ddod: bydd llygredd wedi darfod,

114. [44] anghymedroldeb wedi ei ddileu, ac anghrediniaeth wedi ei thorri ymaith; ond bydd cyfiawnder wedi tyfu i'w lawn dwf, a haul gwirionedd wedi codi.

115. [45] Felly, ni bydd neb yn gallu tosturio wrth un a gafwyd yn euog yn y Farn, nac ychwaith ddarostwng un a gafwyd yn ddieuog.”

116. [46] Atebais innau fel hyn: “Dyma fy ngair cyntaf a'm gair olaf: y buasai'n well pe na bai'r ddaear wedi rhoi bod i Adda; neu, o roi bod iddo, pe bai wedi ei gadw fel na allai bechu.

117. [47] Oherwydd pa elw sydd i ni oll o fyw mewn tristwch yn y presennol, heb ddim ond cosb i ddisgwyl amdano ar ôl marw?

118. [48] O Adda, beth a wnaethost? Oherwydd os tydi a bechodd, nid i ti yn unig y bu'r cwymp, ond i ninnau hefyd sydd yn ddisgynyddion i ti.

119. [49] Pa elw yw i ni fod oes anfarwol wedi ei haddo inni, a ninnau wedi cyflawni gweithredoedd marwol;

120. [50] bod gobaith tragwyddol wedi ei ragfynegi ar ein cyfer, a ninnau wedi mynd yn wael a diwerth;

121. [51] bod trigfannau llawn iechyd a diogelwch wedi eu darparu, a ninnau wedi byw bywyd drwg;

122. [52] bod gogoniant y Goruchaf i amddiffyn y rhai sydd wedi byw bywyd glân, a ninnau wedi rhodio yn y ffyrdd bryntaf posibl;

123. [53] bod paradwys i gael ei datguddio, a'i ffrwyth sy'n parhau yn ddiddarfod ac yn dwyn llawnder ac iachâd,

124. [54] a ninnau heb fynediad iddi am ein bod wedi byw mewn lleoedd anfuddiol;

125. [55] bod wynebau'r rhai a fu'n arfer hunanddisgyblaeth i ddisgleirio'n oleuach na'r sêr, a'n hwynebau ninnau yn dduach na'r tywyllwch?

126. [56] Oherwydd, yn ystod oes o wneud drygioni, nid ydym wedi ystyried beth yr ydym i'w ddioddef ar ôl marw.”

127. [57] Atebodd ef fi a dweud: “Dyma resymeg yr ornest y mae pobun a aned ar y ddaear yn bwrw iddi:

128. [58] os colli a wna, bydd yn dioddef fel y dywedaist ti; ond os ennill, caiff dderbyn yr hyn yr wyf fi'n ei ddweud.

129. [59] Oherwydd dyma'r ffordd y soniodd Moses amdani yn ei ddydd, pan ddywedodd wrth y bobl: ‘Dewis fywyd i ti dy hun, a bydd fyw!’

130. [60] Ond ni chredasant ef, na'r proffwydi ar ei ôl, na minnau chwaith, a fûm yn llefaru wrthynt.

131. [61] Felly ni all y tristwch am eu dinistr hwy gael ei gymharu â'r llawenydd am iachawdwriaeth y rhai a gredodd.”

132. [62] “Gwn, f'arglwydd,” atebais innau, “y gelwir y Goruchaf yn awr yn drugarog, am ei fod yn trugarhau wrth y rhai sydd hyd yma heb ddod i mewn i'r byd;

133. [63] ac yn dosturiol, am ei fod yn tosturio wrth y rhai sydd wedi troi a derbyn ei gyfraith ef;

134. [64] ac yn amyneddgar, am ei fod yn dangos amynedd tuag at y rhai a bechodd, yn gymaint â'u bod yn waith ei ddwylo'i hun;

135. [65] ac yn haelionus, am ei bod yn well ganddo roi yn hytrach na mynnu derbyn;

136. [66] ac yn fawr ei drugaredd, am ei fod yn amlhau ei drugareddau fwyfwy tuag at bobl y presennol, y gorffennol a'r dyfodol.

137. [67] Oherwydd pe na bai ef yn amlhau ei drugareddau, ni châi'r byd a'i drigolion eu cadw'n fyw.

138. [68] Fe'i gelwir hefyd yn gymwynaswr, oherwydd pe na bai ef, o'i ddaioni, mor fawr ei gymwynas ag i ryddhau o'u pechodau y rhai a bechodd, ni allai'r ddeg filfed ran o'r ddynol ryw gael eu cadw'n fyw;

139. [69] ac yn farnwr, oherwydd pe na bai ef yn maddau i'r rhai a grewyd gan ei air, ac yn dileu eu llu camweddau,

140. [70] hwyrach na adewid ar ôl ond ychydig iawn o'r lliaws aneirif.”