Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr Arglwydd ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin.

2. A mi a'i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd:

3. A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau.

4. Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim.

5. Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr Arglwydd a'i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.