Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan oedd Israel yn fachgen, mi a'i cerais ef, ac a elwais fy mab o'r Aifft.

2. Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o'u gŵydd hwy; aberthasant i Baalim, llosgasant arogl‐darth i ddelwau cerfiedig.

3. Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded, gan eu cymryd erbyn eu breichiau; ond ni chydnabuant mai myfi a'u meddyginiaethodd hwynt.

4. Tynnais hwynt â rheffynnau dynol, â rhwymau cariad; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt; a bwriais atynt fwyd.

5. Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft; ond yr Asyriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi.

6. A'r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef, am eu cynghorion eu hun.

7. A'm pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi; er iddynt eu galw at y Goruchaf, eto ni ddyrchafai neb ef.

8. Pa fodd y'th roddaf ymaith, Effraim? y'th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y'th wnaf fel Adma? ac y'th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a'm hedifeirwch a gydgyneuwyd.

9. Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, canys Duw ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i'r ddinas.

10. Ar ôl yr Arglwydd yr ânt; efe a rua fel llew: pan ruo efe, yna meibion o'r gorllewin a ddychrynant.

11. Dychrynant fel aderyn o'r Aifft, ac fel colomen o dir Asyria: a mi a'u gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr Arglwydd.

12. Effraim a'm hamgylchynodd â chelwydd, a thŷ Israel â thwyll; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw, ac yn ffyddlon gyda'r saint.