Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dy Dduw, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd.

2. Y llawr dyrnu na'r gwinwryf nis portha hwynt, a'r gwin newydd a'i twylla hi.

3. Ni thrigant yng ngwlad yr Arglwydd; ond Effraim a ddychwel i'r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan.

4. Nid offrymant win i'r Arglwydd, a'u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd.

5. Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr Arglwydd?

6. Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a'u casgl hwynt, Memffis a'u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll.

7. Dyddiau i ymweled a ddaethant, dyddiau talu'r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a'r cas mawr.

8. Gwyliedydd Effraim a fu gyda'm Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei Dduw.

9. Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â'u pechod.

10. Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal‐peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd‐dra fel y carasant.

11. Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o'r enedigaeth, o'r groth, ac o'r beichiogi.

12. Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt!

13. Effraim, fel y gwelais Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad.

14. Dyro iddynt, Arglwydd: beth a roddi? dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion.

15. Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o'm tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar.

16. Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf annwyl blant eu crothau.

17. Fy Nuw a'u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y byddant grwydraid ymhlith y cenhedloedd.