Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan lefarodd Effraim â dychryn, ymddyrchafodd efe yn Israel; ond pan bechodd gyda Baal, y bu farw.

2. Ac yr awr hon ychwanegasant bechu, ac o'u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eilunod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dywedyd, Y rhai a aberthant, cusanant y lloi.

3. Am hynny y byddant fel y bore-gwmwl, ac megis y gwlith yr ymedy yn fore, fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o'r llawr dyrnu, ac fel mwg o'r ffumer.

4. Eto myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, a'th ddug di o dir yr Aifft; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi: ac nid oes Iachawdwr ond myfi.

5. Mi a'th adnabûm yn y diffeithwch, yn nhir sychder mawr.

6. Fel yr oedd eu porfa, y cawsant eu gwala: cawsant eu gwala, a chodasant eu calonnau; ac anghofiasant fi.

7. Ond mi a fyddaf fel llew iddynt; megis llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt.

8. Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difâf hwynt: bwystfil y maes a'u llarpia hwynt.

9. O Israel, tydi a'th ddinistriaist dy hun; ond ynof fi y mae dy gymorth.

10. Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a'th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a'th frawdwyr, am y rhai y dywedaist, Dyro i mi frenin a thywysogion?

11. Rhoddais i ti frenin yn fy nig, a dygais ef ymaith yn fy llid.

12. Rhwymwyd anwiredd Effraim; cuddiwyd ei bechod ef.

13. Gofid un yn esgor a ddaw arno: mab angall yw efe; canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant.

14. O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt: byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o'm golwg.

15. Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr Arglwydd o'r anialwch a ddyrchafa, a'i ffynhonnell a sych, a'i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol.

16. Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i'w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a'u gwragedd beichiogion a rwygir.