Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Meibion Israel, gwrandewch air yr Arglwydd: canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o Dduw, yn y wlad.

2. Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.

3. Am hynny y galara y wlad, ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant.

4. Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â'r offeiriad.

5. Am hynny ti a syrthi y dydd, a'r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.

6. Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybodaeth, minnau a'th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dy Dduw, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd.

7. Fel yr amlhasant, felly y pechasant i'm herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth.

8. Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon.

9. A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd.

10. Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhânt; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr Arglwydd.

11. Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.

12. Fy mhobl a ofynnant gyngor i'w cyffion, a'u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a'u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu Duw.

13. Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl‐darth, dan y dderwen, a'r boplysen, a'r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a'ch gwragedd a dorrant briodas.

14. Nid ymwelaf â'ch merched pan buteiniont, nac â'ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a'r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant.

15. Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth‐afen; ac na thyngwch, Byw yw yr Arglwydd.

16. Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr Arglwydd yr awr hon a'u portha hwynt fel oen mewn ehangder.

17. Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo.

18. Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi.

19. Y gwynt a'i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau.