Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. At dy safn â'r utgorn. Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr Arglwydd, am iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith.

2. Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a'th adwaenom di.

3. Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a'i herlid yntau.

4. Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o'u harian a'u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.

5. Samaria, dy lo a'th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i'w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd?

6. Canys o Israel y mae; y saer a'i gwnaeth; am hynny nid yw efe Dduw: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.

7. Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a'i llwnc.

8. Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo.

9. Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau.

10. Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a'u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion.

11. Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu.

12. Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd.

13. Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytânt; yr Arglwydd nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i'r Aifft.

14. Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i'w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.