Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samaria: canys gwnânt ffalster; a'r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan.

2. Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a'u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.

3. Llawenhânt y brenin â'u drygioni, a'r tywysogion â'u celwyddau.

4. Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.

5. Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a'i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin: estynnodd ei law gyda gwatwarwyr.

6. Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân.

7. Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb un ohonynt yn galw arnaf fi.

8. Effraim a ymgymysgodd â'r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi.

9. Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd‐ddo, ac nis gwybu efe.

10. Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr Arglwydd eu Duw, ac nis ceisiant ef.

11. Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon; galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.

12. Pan elont, taenaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd: cosbaf hwynt, fel y clybu eu cynulleidfa hwynt.

13. Gwae hwynt! canys ffoesant oddi wrthyf: dinistr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i'm herbyn: er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasant gelwydd arnaf fi.

14. Ac ni lefasant arnaf â'u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf.

15. Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi.

16. Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft.