Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Deuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd: canys efe a'n drylliodd, ac efe a'n hiachâ ni; efe a drawodd, ac efe a'n meddyginiaetha ni.

2. Efe a'n bywha ni ar ôl deuddydd, a'r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef.

3. Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr Arglwydd: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a'r cynnar law i'r ddaear.

4. Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol.

5. Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a'th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan.

6. Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoethoffrymau.

7. A'r rhai hyn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i'm herbyn.

8. Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, wedi ei halogi gan waed.

9. Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder.

10. Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel.

11. Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.