Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Deuthum i'm gardd, fy chwaer, a'm dyweddi: cesglais fy myrr gyda'm perarogl, bwyteais fy nil gyda'm mêl, yfais fy ngwin gyda'm llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.

2. Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a'm gwallt â defnynnau y nos.

3. Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt?

4. Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a'm hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn.

5. Mi a gyfodais i agori i'm hanwylyd; a'm dwylo a ddiferasant gan fyrr, a'm bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo.

6. Agorais i'm hanwylyd; ond fy anwylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni'm hatebodd.

7. Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas, a'm cawsant, a'm trawsant, a'm harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf.

8. Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.

9. Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o'r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly?

10. Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil.

11. Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân.

12. Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys.

13. Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol.

14. Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir.

15. Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol â chedrwydd.

16. Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.