Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O na bait megis brawd i mi, yn sugno bronnau fy mam! pan y'th gawn allan, cusanwn di; eto ni'm dirmygid.

2. Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a'm dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau.

3. Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a'i law ddeau a'm cofleidiai.

4. Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

5. Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o'r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y'th gyfodais: yno y'th esgorodd dy fam; yno y'th esgorodd yr hon a'th ymddûg.

6. Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.

7. Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.

8. Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i'n chwaer y dydd y dyweder amdani?

9. Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian; ac os drws yw hi, ni a'i caewn hi ag ystyllod cedrwydd.

10. Caer ydwyf fi, a'm bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd.

11. Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal‐hamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian.

12. Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i'r rhai a gadwant ei ffrwyth hi.

13. O yr hon a drigi yn y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.

14. Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.