Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Can y caniadau, eiddo Solomon.

2. Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin.

3. Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a'th garant.

4. Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a'm dug i i'w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu.

5. Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon.

6. Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i'r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun nis cedwais.

7. Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?

8. Oni wyddost ti, y decaf o'r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid.

9. I'r meirch yng ngherbydau Pharo y'th gyffelybais, fy anwylyd.

10. Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a'th wddf gan gadwyni.

11. Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.

12. Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl.

13. Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr; rhwng fy mronnau yr erys dros nos.

14. Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi.

15. Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod.

16. Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd.

17. Swmerau ein tai sydd gedrwydd; ein distiau sydd ffynidwydd.