Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Lliw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.

2. Codaf yn awr, ac af o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a'r ystrydoedd, ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.

3. Y gwylwyr, y rhai a aent o amgylch y ddinas, a'm cawsant: gofynnais, A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid?

4. Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac nis gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a'm hymddûg.

5. Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

6. Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o'r anialwch megis colofnau mwg, wedi ei pherarogli â myrr, ac â thus, ac â phob powdr yr apothecari?

7. Wele ei wely ef, sef yr eiddo Solomon; y mae trigain o gedyrn o'i amgylch, sef o gedyrn Israel.

8. Hwynt oll a ddaliant gleddyf, wedi eu dysgu i ryfel, pob un â'i gleddyf ar ei glun, rhag ofn liw nos.

9. Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus.

10. Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei lenni o borffor; ei ganol a balmantwyd â chariad, i ferched Jerwsalem.

11. Ewch allan, merched Seion, ac edrychwch ar y brenin Solomon yn y goron â'r hon y coronodd ei fam ef yn ei ddydd dyweddi ef, ac yn nydd llawenydd ei galon ef.