Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint.

2. Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili.

3. Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid.

4. Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth‐rabbim; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.

5. Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.

6. Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a'm hyfrydwch!

7. Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a'th fronnau i'r grawnsypiau.

8. Dywedais, Dringaf i'r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn‐ganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;

9. A thaflod dy enau megis y gwin gorau i'm hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.

10. Eiddo fy anwylyd ydwyf fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef.

11. Tyred, fy anwylyd, awn i'r maes, a lletywn yn y pentrefi.

12. Boregodwn i'r gwinllannoedd; edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau: yno y rhoddaf fy nghariad i ti.

13. Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.