1. I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o'r gwragedd? i ba le y trodd dy anwylyd? fel y ceisiom ef gyda thi.
2. Fy anwylyd a aeth i waered i'w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili.
3. Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a'm hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.
4. Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog.
5. Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a'm gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead.
6. Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o'r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg.
7. Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.
8. Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.
9. Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a'i hesgorodd: y merched a'i gwelsant, ac a'i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a'r gordderchwragedd, a hwy a'i canmolasant hi.
10. Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?
11. Euthum i waered i'r ardd gnau, i edrych am ffrwythydd y dyffryn, i weled a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.
12. Heb wybod i mi y'm gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.
13. Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.