Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau; dy wallt sydd fel diadell o eifr, y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead.

2. Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif, y rhai a ddaethant i fyny o'r olchfa; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen, ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil.

3. Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad, a'th barabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.

4. Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn.

5. Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili.

6. Hyd oni wawrio'r dydd, a chilio o'r cysgodau, af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus.

7. Ti oll ydwyt deg, fy anwylyd; ac nid oes ynot frycheuyn.

8. Tyred gyda mi o Libanus, fy nyweddi, gyda mi o Libanus: edrych o ben Amana, o gopa Senir a Hermon, o lochesau y llewod, o fynyddoedd y llewpardiaid.

9. Dygaist fy nghalon, fy chwaer a'm dyweddi; dygaist fy nghalon ag un o'th lygaid, ag un gadwyn wrth dy wddf.

10. Mor deg yw dy gariad, fy chwaer, a'm dyweddi! pa faint gwell yw dy gariad na gwin, ac arogl dy olew na'r holl beraroglau!

11. Dy wefusau, fy nyweddi, sydd yn diferu fel dil mêl: y mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus.

12. Gardd gaeëdig yw fy chwaer, a'm dyweddi: ffynnon gloëdig, ffynnon seliedig yw.

13. Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau, a ffrwyth peraidd, camffir, a nardus;

14. Ie, nardus a saffrwn, calamus a sinamon, a phob pren thus, myrr, ac aloes, ynghyd â phob rhagorol berlysiau:

15. Ffynnon y gerddi, ffynnon y dyfroedd byw, a ffrydiau o Libanus.

16. Deffro di, ogleddwynt, a thyred, ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd, fel y gwasgarer ei pheraroglau: deued fy anwylyd i'w ardd, a bwytaed ei ffrwyth peraidd ei hun.