Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8

Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi.

2. Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched.

3. Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a'i ffrwyth oedd felys i'm genau.

4. Efe a'm dug i'r gwindy, a'i faner drosof ydoedd gariad.

5. Cynheliwch fi â photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad.

6. Ei law aswy sydd dan fy mhen, a'i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio.

7. Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

8. Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau.

9. Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i'n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt.

10. Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth:

11. Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith;

12. Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad;

13. Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a'r gwinwydd â'u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.

14. Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a'th olwg yn hardd.

15. Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd: canys y mae i'n gwinllannoedd egin grawnwin.

16. Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minnau yn eiddo yntau; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili.

17. Hyd oni wawrio'r dydd, a chilio o'r cysgodau; tro, bydd debyg, fy anwylyd, i iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether.