Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Abram yn Arbed Lot

1. Yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goim,

2. rhyfelodd y rhain yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsa brenin Gomorra, Sinab brenin Adma, Semeber brenin Seboim, a brenin Bela, sef Soar.

3. Cyfarfu'r rhain i gyd yn nyffryn Sidim, sef y Môr Heli.

4. Am ddeuddeng mlynedd y buont yn gwasanaethu Cedorlaomer, nes iddynt wrthryfela yn y drydedd flwyddyn ar ddeg.

5. Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd gydag ef a tharo'r Reffaimiaid yn Asteroth-carnaim, y Susiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-ciriathaim,

6. yr Horiaid ym mynydd-dir Seir, hyd El-paran ar fin y diffeithwch.

7. Yna troesant a dod i En-mispat, sef Cades, a tharo holl dir yr Amaleciaid, a hefyd yr Amoriaid, a oedd yn trigo yn Hasason-Tamar.

8. Yna aeth brenin Sodom, brenin Gomorra, brenin Adma, brenin Seboim a brenin Bela, sef Soar, i ryfela yn nyffryn Sidim yn erbyn

9. Cedorlaomer brenin Elam, Tidal brenin Goim, Amraffel brenin Sinar ac Arioch brenin Elasar, pedwar brenin yn erbyn pump.

10. Yr oedd dyffryn Sidim yn llawn o byllau pyg; ac wrth i frenhinoedd Sodom a Gomorra ffoi, syrthiasant i mewn iddynt, ond ffodd y lleill i'r mynydd.

11. Yna cipiodd y pedwar holl eiddo Sodom a Gomorra, a'u holl luniaeth, a mynd ymaith.

12. Cymerasant hefyd Lot, mab i frawd Abram, a oedd yn byw yn Sodom, a'i eiddo, ac aethant ymaith.

13. A daeth un oedd wedi dianc, a dweud am hyn wrth Abram yr Hebread, a oedd yn byw wrth dderw Mamre yr Amoriad, brawd Escol ac Aner, rhai oedd mewn cynghrair ag Abram.

14. Pan glywodd Abram am gaethgludo'i frawd, casglodd ei wŷr arfog oedd yn perthyn i'w dŷ, tri chant a deunaw ohonynt, ac ymlidiodd hyd Dan.

15. Aeth ef a'i weision yn finteioedd yn eu herbyn liw nos, a'u taro a'u hymlid hyd Hoba, i'r gogledd o Ddamascus.

16. A daeth â'r holl eiddo yn ôl, a dwyn yn ôl hefyd ei frawd Lot a'i eiddo, a'r gwragedd a'r bobl.

Melchisedec yn Bendithio Abram

17. Wedi i Abram ddychwelyd o daro Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd gydag ef, aeth brenin Sodom allan i'w gyfarfod i ddyffryn Safe, sef Dyffryn y Brenin.

18. A daeth Melchisedec brenin Salem â bara a gwin iddo; yr oedd ef yn offeiriad i'r Duw Goruchaf,

19. a bendithiodd ef a dweud:“Bendigedig fyddo Abram gan y Duw Goruchaf,perchen nef a daear;

20. a bendigedig fyddo'r Duw Goruchaf,a roes dy elynion yn dy law.”A rhoddodd Abram iddo ddegwm o'r cwbl.

21. Dywedodd brenin Sodom wrth Abram, “Rho'r bobl i mi, a chymer di'r eiddo.”

22. Ond dywedodd Abram wrth frenin Sodom, “Tyngais i'r ARGLWYDD Dduw Goruchaf, perchen nef a daear,

23. na chymerwn nac edau na charrai esgid, na dim oll sy'n eiddo i ti, rhag i ti ddweud, ‘Yr wyf wedi cyfoethogi Abram.’

24. Ni chymeraf ond yr hyn a fwytaodd y llanciau, a chyfran y gwŷr a ddaeth gyda mi, sef Aner, Escol a Mamre; cânt hwy gymryd eu cyfran.”