Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Addo Mab i Abraham

1. Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abraham wrth dderw Mamre, pan oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yng ngwres y dydd.

2. Cododd ei olwg a gwelodd dri gŵr yn sefyll o'i flaen. Pan welodd hwy, rhedodd o ddrws y babell i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,

3. a dweud, “F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid â mynd heibio i'th was.

4. Dyger ychydig ddŵr, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden,

5. a dof finnau â thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas.” Ac meddant, “Gwna fel y dywedaist.”

6. Brysiodd Abraham i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia i estyn tri mesur o flawd peilliaid, tylina ef, a gwna deisennau.”

7. Yna rhedodd Abraham at y gwartheg, a chymryd llo tyner a da a'i roi i'w was; a brysiodd yntau i'w baratoi.

8. Cymerodd gaws a llaeth a'r llo yr oedd wedi ei baratoi, a'u gosod o'u blaenau; yna safodd gerllaw o dan y goeden tra oeddent yn bwyta.

9. Gofynasant iddo, “Ble mae dy wraig Sara?” Atebodd yntau, “Dyna hi yn y babell.”

10. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dof yn ôl atat yn sicr yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara dy wraig fab.” Yr oedd Sara yn gwrando wrth ddrws y babell y tu ôl iddo.

11. Yr oedd Abraham a Sara yn hen, mewn gwth o oedran, ac yr oedd arfer gwragedd wedi peidio i Sara.

12. Am hynny, chwarddodd Sara ynddi ei hun, a dweud, “Ai wedi imi heneiddio, a'm gŵr hefyd yn hen, y caf hyfrydwch?”

13. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, “Pam y chwarddodd Sara a dweud, ‘A fyddaf fi'n wir yn planta, a minnau'n hen?’

14. A oes dim yn rhy anodd i'r ARGLWYDD? Dof yn ôl atat ar yr amser penodedig, yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara fab.”

15. Gwadodd Sara iddi chwerthin, oherwydd yr oedd arni ofn. Ond dywedodd ef, “Do, fe chwerddaist.”

Abraham yn Erfyn dros Sodom

16. Pan aeth y gwŷr ymlaen oddi yno, ac edrych i lawr tua Sodom, aeth Abraham gyda hwy i'w hebrwng.

17. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho'i hun, “A gelaf fi rhag Abraham yr hyn yr wyf am ei wneud,

18. oherwydd yn ddiau daw Abraham yn genedl fawr a chref, a bendithir holl genhedloedd y ddaear ynddo?

19. Na, fe'i hysbysaf, er mwyn iddo orchymyn i'w blant a'i dylwyth ar ei ôl gadw ffordd yr ARGLWYDD a gwneud cyfiawnder a barn, fel y bydd i'r ARGLWYDD gyflawni ei air i Abraham.”

20. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Am fod y gŵyn yn erbyn Sodom a Gomorra yn fawr, a'u pechod yn ddrwg iawn,

21. disgynnaf i weld a wnaethant yn hollol yn ôl y gŵyn a ddaeth ataf; os na wnaethant, caf wybod.”

22. Pan drodd y gwŷr oddi yno a mynd i gyfeiriad Sodom, yr oedd Abraham yn dal i sefyll gerbron yr ARGLWYDD.

23. A nesaodd Abraham a dweud, “A wyt yn wir am ddifa'r cyfiawn gyda'r drygionus?

24. Os ceir hanner cant o rai cyfiawn yn y ddinas, a wyt yn wir am ei dinistrio a pheidio ag arbed y lle er mwyn yr hanner cant cyfiawn sydd yno?

25. Na foed iti wneud y fath beth, a lladd y cyfiawn gyda'r drygionus, nes bod y cyfiawn yr un fath â'r drygionus. Na ato Duw! Oni wna Barnwr yr holl ddaear farn?”

26. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Os caf yn ninas Sodom hanner cant o rai cyfiawn, arbedaf yr holl le er eu mwyn.”

27. Atebodd Abraham a dweud, “Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD, a minnau'n ddim ond llwch a lludw.

28. Os bydd pump yn eisiau o'r hanner cant o rai cyfiawn, a ddinistri di'r holl ddinas oherwydd pump?” Dywedodd yntau, “Os caf yno bump a deugain, ni ddinistriaf hi.”

29. Llefarodd eto wrtho a dweud, “Beth os ceir deugain yno?” Dywedodd yntau, “Nis gwnaf er mwyn y deugain.”

30. Yna dywedodd, “Na ddigied yr ARGLWYDD os llefaraf. Ond beth os ceir yno ddeg ar hugain?” Dywedodd yntau, “Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.”

31. Yna dywedodd, “Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD. Beth os ceir yno ugain?” Dywedodd yntau, “Ni ddinistriaf hi er mwyn yr ugain.”

32. Yna dywedodd, “Peidied yr ARGLWYDD â digio wrthyf am lefaru y tro hwn yn unig. Beth os ceir yno ddeg?” Dywedodd yntau, “Ni ddinistriaf hi er mwyn y deg.”

33. Aeth yr ARGLWYDD ymaith wedi iddo orffen llefaru wrth Abraham, a dychwelodd Abraham i'w le.