Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna fe'i taflodd Joseff ei hun ar gorff ei dad, ac wylo a'i gusanu.

2. Gorchmynnodd Joseff i'w weision, y meddygon, eneinio ei dad. Bu'r meddygon yn eneinio Israel

3. dros ddeugain diwrnod, sef yr amser angenrheidiol i eneinio, a galarodd yr Eifftiaid amdano am saith deg diwrnod.

4. Pan ddaeth y dyddiau i alaru amdano i ben, dywedodd Joseff wrth deulu Pharo, “Os cefais unrhyw ffafr yn eich golwg, siaradwch drosof wrth Pharo, a dywedwch,

5. ‘Gwnaeth fy nhad i mi gymryd llw. Dywedodd, “Yr wyf yn marw, ac yr wyf i'm claddu yn y bedd a dorrais i mi fy hun yng ngwlad Canaan.” Yn awr gad i mi fynd i fyny i gladdu fy nhad; yna fe ddof yn ôl.’ ”

6. Atebodd Pharo, “Dos i fyny i gladdu dy dad, fel y gwnaeth iti dyngu.”

7. Felly aeth Joseff i fyny i gladdu ei dad, a chydag ef aeth holl weision Pharo, henuriaid ei dŷ, a holl henuriaid gwlad yr Aifft,

8. holl dŷ Joseff, a'i frodyr, a thŷ ei dad. Dim ond y rhai bychain, a'r defaid a'r gwartheg, a adawsant yng ngwlad Gosen.

9. Aeth i fyny gydag ef gerbydau a marchogion, llu mawr ohonynt.

10. Wedi iddynt gyrraedd llawr dyrnu Atad, sydd y tu draw i'r Iorddonen, gwnaethant yno alarnad uchel a chwerw iawn. Galarnadodd Joseff am ei dad am saith diwrnod.

11. Pan welodd y Canaaneaid, preswylwyr y wlad, y galar ar lawr dyrnu Atad, dywedasant, “Dyma alar mawr gan yr Eifftiaid.” Felly enwyd y lle y tu draw i'r Iorddonen yn Abel-misraim.

12. A gwnaeth ei feibion i Jacob fel yr oedd wedi gorchymyn iddynt;

13. oherwydd daeth ei feibion ag ef i wlad Canaan a'i gladdu ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yn yr ogof a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.

14. Ac wedi iddo gladdu ei dad, dychwelodd Joseff i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb oedd wedi mynd i fyny gydag ef i gladdu ei dad.

Joseff yn Tawelu Ofnau ei Frodyr

15. Wedi marw eu tad, daeth ofn ar frodyr Joseff, a dywedasant, “Efallai y bydd Joseff yn ein casáu ni, ac yn talu'n ôl yr holl ddrwg a wnaethom iddo.”

16. A daethant at Joseff, a dweud, “Rhoddodd dy dad orchymyn fel hyn cyn marw,

17. ‘Dywedwch wrth Joseff, “Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti.” ’ Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad.” Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef.

18. Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Yr ydym yn weision i ti.”

19. Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw?

20. Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl.

21. Felly peidiwch ag ofni; fe'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach.” A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt.

Marw Joseff

22. Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Bu Joseff fyw am gant a deg o flynyddoedd,

23. a gwelodd blant Effraim hyd y drydedd genhedlaeth. Ar liniau Joseff hefyd y maethwyd plant Machir fab Manasse.

24. Yna dywedodd Joseff wrth ei frodyr, “Yr wyf yn marw; ond y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi a'ch dwyn i fyny o'r wlad hon i'r wlad a addawodd trwy lw i Abraham, Isaac a Jacob.”

25. A gwnaeth Joseff i feibion Israel dyngu llw. Dywedodd, “Y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi; ewch chwithau â'm hesgyrn i fyny oddi yma.”

26. Bu Joseff farw yn gant a deg oed, ac wedi iddynt ei eneinio, rhoesant ef mewn arch yn yr Aifft.