Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Disgynyddion Meibion Noa

1. Dyma genedlaethau meibion Noa, sef Sem, Cham a Jaffeth. Ganwyd iddynt feibion wedi'r dilyw.

2. Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras.

3. Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, a Togarma.

4. Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim;

5. o'r rhain yr ymrannodd pobl yr ynysoedd. Dyna feibion Jaffeth yn eu gwledydd, pob un yn ôl ei iaith a'i lwyth, ac yn eu cenhedloedd.

6. Meibion Cham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan.

7. Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan.

8. Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear.

9. Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, “Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD.”

10. Dechreuodd ei frenhiniaeth gyda Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Sinar.

11. Aeth allan o'r wlad honno i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,

12. a Resen, dinas fawr rhwng Ninefe a Cala.

13. Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim,

14. Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt.

15. Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth;

16. hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid,

17. Hefiaid, Arciaid, Siniaid,

18. Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid,

19. ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa.

20. Dyna feibion Cham, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

21. I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant.

22. Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram.

23. Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas.

24. Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber.

25. I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd.

26. Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera,

27. Hadoram, Usal, Dicla,

28. Obal, Abimael, Seba,

29. Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan.

30. Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain.

31. Dyna feibion Sem, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

32. Dyma lwythau meibion Noa, yn ôl eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw.