Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna galwodd Isaac ar Jacob, a bendithiodd ef. Gorchmynnodd iddo, “Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan.

2. Cod, dos i Padan Aram, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymer iti yno wraig o blith merched Laban brawd dy fam.

3. Boed i Dduw Hollalluog dy fendithio, a'th wneud yn ffrwythlon a lluosog fel y byddi'n gynulliad o bobloedd.

4. Rhodded ef fendith Abraham i ti ac i'th hil hefyd, fel y cei etifeddu'r wlad yr wyt yn ymdeithio ynddi, yr un a roddodd Duw i Abraham.”

5. Felly, anfonodd Isaac Jacob ymaith; ac aeth yntau i Padan Aram at Laban fab Bethuel yr Aramead, brawd Rebeca mam Jacob ac Esau.

Esau'n Priodi Eto

6. Deallodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon ymaith i Padan Aram i gymryd gwraig oddi yno, ac iddo orchymyn iddo wrth ei fendithio, “Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan”,

7. a bod Jacob wedi gwrando ar ei rieni a mynd i Padan Aram.

8. Pan welodd Esau nad oedd merched Canaan wrth fodd Isaac ei dad,

9. aeth at Ismael a chymryd yn wraig, at ei wragedd eraill, Mahalath ferch Ismael, fab Abraham, chwaer Nebaioth.

Breuddwyd Jacob

10. Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran.

11. A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.

12. Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi.

13. A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion;

14. bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion.

15. Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi'n ôl i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais.”

16. Pan ddeffrôdd Jacob o'i gwsg, dywedodd, “Y mae'n sicr fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac ni wyddwn i.”

17. A daeth arno ofn, ac meddai, “Mor ofnadwy yw'r lle hwn! Nid yw'n ddim amgen na thŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.”

18. Cododd Jacob yn fore, a chymerodd y garreg a fu dan ei ben, a gosododd hi'n golofn, a thywallt olew drosti.

19. Galwodd y lle, Bethel, ond enw'r ddinas ar y dechrau oedd Lus.

20. Yna gwnaeth Jacob adduned, a dweud, “Os bydd Duw gyda mi, ac yn fy nghadw'n ddiogel ar fy nhaith, a rhoi imi fara i'w fwyta a dillad i'w gwisgo,

21. a minnau'n dychwelyd mewn heddwch i dŷ fy nhad, yna bydd yr ARGLWYDD yn Dduw i mi,

22. a bydd y garreg hon a osodais yn golofn yn dŷ i Dduw; ac o bob peth a roi i mi, mi rof ddegwm i ti.”