Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Abraham ac Abimelech

1. Ymdeithiodd Abraham oddi yno i ardal y Negef, a byw rhwng Cades a Sur. Arhosodd dros dro yn Gerar,

2. ac yno dywedodd Abraham am ei wraig Sara, “Fy chwaer yw hi”; ac anfonodd Abimelech brenin Gerar am Sara, a'i chymryd.

3. Ond daeth Duw at Abimelech mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, “Fe fyddi farw o achos y wraig a gymeraist, oherwydd gwraig briod yw hi.”

4. Ond nid oedd Abimelech wedi nesáu ati; a dywedodd, “ARGLWYDD, a leddi di bobl ddiniwed?

5. Oni ddywedodd ef wrthyf, ‘Fy chwaer yw hi’, a hithau, ‘Fy mrawd yw ef’? Gwneuthum hyn â chydwybod dawel a dwylo glân.”

6. Yna dywedodd Duw wrtho yn y freuddwyd, “Mi wn iti wneud hyn â chydwybod dawel; cedwais innau di rhag pechu yn f'erbyn, a dyna pam na adewais iti ei chyffwrdd.

7. Yn awr, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr, oherwydd proffwyd yw ac fe weddïa trosot, fel y byddi fyw. Ond os na roi hi'n ôl, deall di y byddi'n siŵr o farw, ti a'th dylwyth.”

8. Cododd Abimelech yn fore, a galw ei holl weision a dweud wrthynt am yr holl bethau hyn; a chafodd y dynion fraw mawr.

9. Yna galwodd Abimelech am Abraham a dweud wrtho, “Beth a wnaethost i ni? Sut yr wyf fi wedi pechu yn dy erbyn, i beri iti ddwyn pechod mawr arnaf fi a'm teyrnas? Yr wyt wedi gwneud pethau i mi na ddylid eu gwneud.”

10. Dywedodd Abimelech ymhellach wrth Abraham, “Beth oedd yn dy feddwl wrth wneud y peth hwn?”

11. Atebodd Abraham, “Mi feddyliais nad oedd neb yn ofni Duw yn y lle hwn, ac y byddent yn fy lladd o achos fy ngwraig.

12. Ac yn wir, fy chwaer yw hi, merch fy nhad, ond nid merch fy mam; a daeth yn wraig i mi.

13. A phan barodd Duw imi adael tŷ fy nhad, dywedais wrthi, ‘Mynnaf y gymwynas hon gennyt: i ble bynnag yr awn, dywed amdanaf, “Fy mrawd yw ef”.’ ”

14. Yna cymerodd Abimelech ddefaid, ychen, gweision a morynion, a'u rhoi i Abraham, a rhoes ei wraig Sara yn ôl iddo.

15. A dywedodd Abimelech, “Dyma fy ngwlad o'th flaen; cei fyw lle bynnag y dymuni.”

16. A dywedodd wrth Sara, “Dyma fi wedi rhoi i'th frawd fil o ddarnau arian; bydd hyn yn dy glirio ac yn dy gyfiawnhau'n llwyr yng ngŵydd pawb sydd gyda thi.”

17. Yna gweddïodd Abraham ar Dduw, ac iachaodd Duw Abimelech a'i wraig a'i forynion; a chawsant blant.

18. Oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi llwyr atal bob planta yn nheulu Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.