Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cyfamod Duw â Noa

1. Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, “Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear.

2. Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y môr; gosodwyd hwy dan eich awdurdod.

3. Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth.

4. Ond peidiwch â bwyta cig â'i einioes, sef ei waed, ynddo.

5. Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall.

6. “A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau;oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.

7. Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch,epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi.”

8. Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud,

9. “Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod â chwi ac â'ch had ar eich ôl,

10. ac â phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch.

11. Sefydlaf fy nghyfamod â chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear.”

12. A dywedodd Duw, “Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif:

13. gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear.

14. Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl,

15. a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd.

16. Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.”

17. Dywedodd Duw wrth Noa, “Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear.”

Noa a'i Feibion

18. Sem, Cham a Jaffeth oedd meibion Noa a ddaeth allan o'r arch. Cham oedd tad Canaan.

19. Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear.

20. Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan,

21. ac yna yfodd o'r gwin nes meddwi, a gorwedd yn noeth yn ei babell.

22. Gwelodd Cham, tad Canaan, ei dad yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd y tu allan;

23. ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad.

24. Pan ddeffrôdd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo,

25. dywedodd,“Melltigedig fyddo Canaan;gwas i weision ei frodyr fydd.”

26. Dywedodd hefyd,“Bendigedig gan yr ARGLWYDD fy Nuw fyddo Sem;bydded Canaan yn was iddo.

27. Helaethed Duw Jaffeth, iddo breswylio ym mhebyll Sem;bydded Canaan yn was iddo.”

28. Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd.

29. Felly yr oedd oes gyfan Noa yn naw cant a hanner o flynyddoedd; yna bu farw.