Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Hagar ac Ismael

1. Nid oedd plant gan Sarai gwraig Abram, ond yr oedd ganddi forwyn o Eifftes, o'r enw Hagar.

2. Dywedodd Sarai wrth Abram, “Edrych yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhwystro imi ddwyn plant. Dos at fy morwyn; efallai y caf blant ohoni hi.” Gwrandawodd Abram ar Sarai.

3. Wedi i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd Sarai gwraig Abram ei morwyn Hagar yr Eifftes, a'i rhoi'n wraig i'w gŵr Abram.

4. Cafodd ef gyfathrach â Hagar, a beichiogodd hithau; a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, aeth ei meistres yn ddibris yn ei golwg.

5. Yna dywedodd Sarai wrth Abram, “Bydded fy ngham arnat ti! Rhoddais fy morwyn yn dy fynwes, a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, euthum yn ddibris yn ei golwg. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom.”

6. Dywedodd Abram wrth Sarai, “Edrych, y mae dy forwyn dan dy ofal; gwna iddi fel y gweli'n dda.” Yna bu Sarai yn gas wrthi, nes iddi ffoi oddi wrthi.

7. Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd i Hagar wrth ffynnon ddŵr yn y diffeithwch, wrth y ffynnon sydd ar y ffordd i Sur.

8. A dywedodd wrthi, “Hagar forwyn Sarai, o ble y daethost, ac i ble'r wyt yn mynd?” Dywedodd hithau, “Ffoi yr wyf oddi wrth fy meistres Sarai.”

9. A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi, “Dychwel at dy feistres, ac ymostwng iddi.”

10. Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi, “Amlhaf dy ddisgynyddion yn ddirfawr, a byddant yn rhy luosog i'w rhifo.”

11. A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi:“Yr wyt yn feichiog, ac fe esgori ar fab;byddi'n ei alw yn Ismael,oherwydd clywodd yr ARGLWYDD am dy gystudd.

12. Asyn gwyllt o ddyn a fydd,a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn ef,un yn byw'n groes i'w holl gymrodyr.”

13. A galwodd hi enw'r ARGLWYDD oedd yn llefaru wrthi yn “Tydi yw El-roi”, oherwydd dywedodd, “A wyf yn wir wedi gweld Duw, a byw ar ôl ei weld?”.

14. Am hynny galwyd y pydew Beer-lahai-roi; y mae rhwng Cades a Bered.

15. Ac esgorodd Hagar ar fab i Abram; ac enwodd Abram y mab a anwyd i Hagar yn Ismael.

16. Yr oedd Abram yn wyth deg a chwech oed pan anwyd iddo Ismael o Hagar.