Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Deddf y Saboth

1. Casglodd Moses ynghyd holl gynulliad pobl Israel a dweud wrthynt, “Dyma'r hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneud:

2. Chwe diwrnod y gweithiwch, ond bydd y seithfed dydd yn gysegredig, yn Saboth o orffwys i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd hwnnw.

3. Peidiwch hyd yn oed â chynnau tân yn eich cartrefi ar y dydd Saboth.”

Rhoddion ar gyfer y Tabernacl

4. Dywedodd Moses wrth holl gynulliad pobl Israel, “Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD:

5. Cymerwch o'r hyn sydd gennych yn offrwm i'r ARGLWYDD; y mae pob un sy'n dymuno rhoi offrwm i'r ARGLWYDD i roi aur, arian ac efydd;

6. sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,

7. crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,

8. olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;

9. meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.

Gwaith ar gyfer y Tabernacl

10. “Y mae pob crefftwr yn eich plith i ddod a gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD:

11. y tabernacl, ei babell a'i len, ei fachau a'i fframiau, ei farrau, ei golofnau a'i draed;

12. yr arch a'i pholion, y drugareddfa, y gorchudd;

13. y bwrdd a'i bolion a'i holl lestri, a'r bara gosod;

14. y canhwyllbren ar gyfer y goleuni, ei lestri a'i lampau, a'r olew ar gyfer y golau;

15. allor yr arogldarth a'i pholion, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd, gorchudd drws y tabernacl;

16. allor y poethoffrwm a'r rhwyll bres, ei pholion a'i holl lestri, y noe a'i throed;

17. llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed, a gorchudd drws y cyntedd;

18. hoelion y tabernacl a'r cyntedd a'u rhaffau;

19. gwisgoedd wedi eu gwnïo'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad ac i'w feibion, i wasanaethu fel offeiriaid.”

Offrymau Gwirfoddol y Bobl

20. Yna aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith oddi wrth Moses,

21. a daeth pob un yr oedd ei galon yn ei gyffroi, a'i ysbryd yn ei ennyn, ag offrwm i'r ARGLWYDD i'w ddefnyddio ym mhabell y cyfarfod ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y gwisgoedd cysegredig.

22. Felly daethant, yn wŷr a gwragedd, a chynnig o'u gwirfodd freichledau, clustlysau, modrwyau, cadwynau a thlysau aur o bob math; yr oedd pawb yn cyflwyno aur yn offrwm i'r ARGLWYDD.

23. Yr oedd pob un a chanddo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod, yn dod â hwy.

24. Yr oedd pob un a allai gyflwyno offrwm o arian neu bres yn dod ag ef i'r ARGLWYDD; ac yr oedd pob un a chanddo goed acasia addas ar gyfer y gwaith yn dod â hwy.

25. Yr oedd pob gwraig fedrus yn nyddu â'i dwylo, ac yn dod â'i gwaith o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main.

26. Yr oedd pob gwraig a fedrai nyddu blew geifr yn gwneud hynny.

27. Daeth yr arweinwyr â meini onyx, meini i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg,

28. perlysiau ac olew ar gyfer y lamp ac ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd.

29. Pan fyddai gŵr neu wraig trwy holl Israel yn dymuno dod ag unrhyw beth ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, byddai'n dod â'i offrwm i'r ARGLWYDD o'i wirfodd.

Crefftwyr y Tabernacl

30. Dywedodd Moses wrth bobl Israel: “Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda,

31. ac wedi ei lenwi ag ysbryd Duw, ac â doethineb a deall, â gwybodaeth hefyd a phob rhyw ddawn,

32. er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain, a gweithio ag aur, arian a phres,

33. a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith.

34. Hefyd, ysbrydolodd yr ARGLWYDD ef ac Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan i ddysgu eraill.

35. Llanwodd hwy â'r ddawn i wneud pob math o waith crefftus a chywrain a wneir gan saer neu grefftwr, neu gan un sy'n brodio sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, neu gan un sy'n gwau.”