Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Edrych, yr wyf yn dy wneud fel Duw i Pharo, a bydd Aaron dy frawd yn broffwyd iti.

2. Yr wyt i fynegi'r cyfan yr wyf yn ei orchymyn i ti, a bydd Aaron dy frawd yn dweud wrth Pharo am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad.

3. Byddaf finnau'n caledu calon Pharo; ac er imi amlhau fy arwyddion a'm rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft,

4. ni fydd ef yn gwrando arnoch. Yna byddaf yn gosod fy llaw ar yr Aifft ac yn rhyddhau fy mhobl Israel yn lluoedd o wlad yr Aifft, trwy weithredoedd nerthol o farn.

5. Bydd yr Eifftiaid yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan estynnaf fy llaw yn erbyn yr Aifft a rhyddhau'r Israeliaid o'u plith.”

6. Gwnaeth Moses ac Aaron yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.

7. Pan lefarodd Moses ac Aaron wrth Pharo, yr oedd Moses yn bedwar ugain oed ac Aaron yn dair a phedwar ugain.

Gwialen Aaron

8. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

9. “Os bydd Pharo'n dweud wrthych am wneud rhyfeddod, yr wyt ti, Moses, i ddweud wrth Aaron, ‘Cymer dy wialen a'i thaflu ar lawr o flaen Pharo, ac fe dry'n sarff.’ ”

10. Felly, aeth Moses ac Aaron at Pharo a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.

11. Taflodd Aaron ei wialen o flaen Pharo a'i weision, ac fe drodd yn sarff. Yna anfonodd Pharo am y gwŷr doeth a'r dewiniaid, ac yr oeddent hwythau, swynwyr yr Aifft, hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin.

12. Taflodd pob un ei wialen, a throdd pob gwialen yn sarff; ond llyncodd gwialen Aaron eu gwiail hwy.

13. Er hynny, caledodd calon Pharo ac ni wrandawodd arnynt, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

Plâu'r Aifft: Gwaed

14. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Y mae calon Pharo wedi caledu, ac y mae'n gwrthod rhyddhau'r bobl.

15. Dos at Pharo yn y bore, wrth iddo fynd tua'r afon; aros amdano ar lan y Neil, a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff.

16. Dywed wrtho, ‘Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi fy anfon atat i ddweud, “Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli yn yr anialwch”; ond hyd yn hyn nid wyt wedi ufuddhau iddo.’

17. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma sut y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD: â'r wialen sydd yn fy llaw byddaf yn taro dŵr y Neil, ac fe dry'n waed.

18. Bydd y pysgod ynddi yn marw, a'r afon yn drewi, a bydd yn ffiaidd i'r Eifftiaid yfed dŵr ohoni.”

19. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron, ‘Cymer dy wialen ac estyn dy law dros ddyfroedd yr Aifft, dros ei ffrydiau a'i hafonydd, dros ei llynnoedd a'i chronfeydd dŵr, er mwyn iddynt droi'n waed.’ Bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft, hyd yn oed yn y cawgiau o bren a charreg.”

20. Gwnaeth Moses ac Aaron fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt. Yng ngŵydd Pharo a'i weision, cododd Aaron y wialen a tharo dŵr y Neil, ac fe droes yr holl ddŵr oedd ynddi yn waed.

21. Bu farw'r pysgod oedd ynddi, ac yr oedd yr afon yn drewi cymaint fel na allai'r Eifftiaid yfed dŵr ohoni; ac yr oedd gwaed trwy holl wlad yr Aifft.

22. Ond yr oedd swynwyr yr Aifft hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin; felly caledodd calon Pharo, ac ni fynnai wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

23. Troes Pharo a mynd i mewn i'w dŷ, heb ystyried y peth ymhellach.

24. Am nad oeddent yn medru yfed y dŵr o'r Neil, bu'r holl Eifftiaid yn cloddio gerllaw'r afon am ddŵr i'w yfed.

25. Parhaodd hyn am saith diwrnod wedi i'r ARGLWYDD daro'r Neil.