Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Arch y Cyfamod

1. Gwnaeth Besalel arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.

2. Goreurodd hi ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.

3. Lluniodd bedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.

4. Gwnaeth bolion o goed acasia a'u goreuro,

5. a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.

6. Gwnaeth drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led.

7. Gwnaeth hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro,

8. a gosod un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.

9. Yr oedd dwy adain y cerwbiaid ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; yr oedd y cerwbiaid yn wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa.

Bwrdd y Bara Gosod

10. Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder.

11. Goreurodd ef ag aur pur drosto, a gwnaeth ymyl aur o'i amgylch.

12. Gwnaeth ffrâm o led llaw o'i gwmpas, ac ymyl aur o amgylch y ffrâm.

13. Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.

14. Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffrâm yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd.

15. Gwnaeth y polion oedd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.

16. Gwnaeth lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; fe'u gwnaeth o aur pur.

Y Canhwyllbren

17. Gwnaeth ganhwyllbren o aur pur. Yr oedd gwaelod y canhwyllbren a'i baladr o ddeunydd gyr, ac yr oedd y pedyll, y cnapiau a'r blodau yn rhan o'r cyfanwaith.

18. Yr oedd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.

19. Ar un gainc yr oedd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyna oedd ar y chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.

20. Ar y canhwyllbren ei hun yr oedd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt;

21. ac yr oedd un o'r cnapiau dan bob pâr o'r chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.

22. Yr oedd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, ac yr oedd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.

23. Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur.

24. Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur.

Allor yr Arogldarth

25. Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgwâr, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.

26. Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.

27. Gwnaeth hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.

28. Gwnaeth y polion o goed acasia, a'u goreuro.

Olew'r Ennaint a'r Arogldarth

29. Gwnaeth hefyd olew cysegredig ar gyfer eneinio, ac arogldarth peraidd a phur, a chymysgodd hwy fel y gwna peraroglydd.