Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Crefftwyr i'r Tabernacl

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Edrych, yr wyf wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda,

3. a'i lenwi ag ysbryd Duw, â doethineb a deall, â gwybodaeth a phob rhyw ddawn,

4. er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain i'w gweithio mewn aur, arian a phres,

5. a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith.

6. Penodais hefyd Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, i'w gynorthwyo. Rhoddais ddawn i bob crefftwr i wneud y cyfan a orchmynnais iti:

7. pabell y cyfarfod, arch y dystiolaeth a'r drugareddfa sydd arni, holl ddodrefn y babell,

8. y bwrdd a'i lestri, y canhwyllbren o aur pur a'i holl lestri, allor yr arogldarth,

9. allor y poethoffrwm a'i holl lestri, y noe a'i throed,

10. y gwisgoedd wedi eu gwnïo'n wisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion, er mwyn iddynt hwythau wasanaethu fel offeiriaid,

11. olew yr eneinio, a'r arogldarth peraidd ar gyfer y cysegr. Y maent i'w gwneud yn union fel y gorchmynnais i ti.”

Y Saboth

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

13. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Cadwch fy Sabothau, oherwydd bydd hyn yn arwydd rhyngof a chwi dros y cenedlaethau, er mwyn i chwi wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sydd yn eich cysegru.

14. Cadwch y Saboth, oherwydd y mae'n gysegredig i chwi; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n ei halogi, a thorrir ymaith o blith ei bobl bwy bynnag sy'n gweithio ar y Saboth.

15. Am chwe diwrnod y gweithir, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth i orffwys, ac yn gysegredig i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd Saboth.

16. Am hynny, bydd pobl Israel yn dathlu'r Saboth ac yn ei gadw dros y cenedlaethau yn gyfamod tragwyddol.

17. Y mae'n arwydd tragwyddol rhyngof a phobl Israel mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, ac iddo ymatal a gorffwys ar y seithfed dydd.’ ”

18. Wedi iddo orffen llefaru wrth Moses ar Fynydd Sinai, rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwy lech y dystiolaeth, llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys Duw.