Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Moses ac Aaron gerbron Pharo

1. Yna aeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt gadw gŵyl i mi yn yr anialwch.’ ”

2. Dywedodd Pharo, “Pwy yw yr ARGLWYDD? Pam y dylwn i ufuddhau iddo a gollwng Israel yn rhydd? Nid wyf yn adnabod yr ARGLWYDD, ac felly nid wyf am ollwng Israel yn rhydd.”

3. Yna dywedasant, “Y mae Duw'r Hebreaid wedi cyfarfod â ni. Gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD, ein Duw, rhag iddo ein taro â haint neu â chleddyf.”

4. Ond dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, “Moses ac Aaron, pam yr ydych yn denu'r bobl oddi wrth eu gwaith? Ewch yn ôl at eich gorchwylion.”

5. Dywedodd Pharo hefyd, “Edrychwch, y maent erbyn hyn yn fwy niferus na thrigolion y wlad, ac yr ydych chwi am atal eu gorchwylion!”

6. Y diwrnod hwnnw, rhoddodd Pharo orchymyn i feistri gwaith y bobl a'u swyddogion,

7. “Peidiwch â rhoi gwellt mwyach i'r bobl i wneud priddfeini; gadewch iddynt fynd a chasglu gwellt iddynt eu hunain.

8. Ond gofalwch eu bod yn cynhyrchu'r un nifer o briddfeini â chynt, a pheidiwch â lleihau'r nifer iddynt. Y maent yn ddiog, a dyna pam y maent yn gweiddi am gael mynd i aberthu i'w Duw.

9. Gwnewch y gwaith yn drymach i'r bobl er mwyn iddynt ddal ati i weithio, a pheidiwch â gwrando ar eu celwydd.”

10. Aeth meistri gwaith a swyddogion y bobl allan a dweud wrthynt, “Fel hyn y dywed Pharo:

11. ‘Nid wyf am roi gwellt i chwi mwyach, ond rhaid i chwi eich hunain fynd i geisio gwellt ym mha le bynnag y gallwch ei gael; er hynny, ni fydd dim cwtogi ar eich cynnyrch.’ ”

12. Felly, bu raid i'r bobl grwydro trwy holl wlad yr Aifft a chasglu sofl yn lle gwellt.

13. Yr oedd y meistri gwaith yn pwyso arnynt gan ddweud, “Gorffennwch y gwaith ar gyfer pob dydd, yn union fel yr oeddech pan oedd gennych wellt.”

14. Cafodd y swyddogion a benodwyd gan feistri gwaith Pharo i oruchwylio'r Israeliaid eu curo a'u holi, “Pam na wnaethoch eich dogn o briddfeini heddiw fel cynt?”

15. Yna daeth swyddogion yr Israeliaid â'u cwyn at Pharo, a dweud, “Pam yr wyt yn trin dy weision fel hyn?

16. Nid oes dim gwellt yn cael ei roi i'th weision, ac eto maent yn dweud wrthym am wneud priddfeini! Y mae dy weision yn cael eu curo, ond ar dy bobl di y mae'r bai.”

17. Dywedodd yntau, “Am eich bod mor ddiog yr ydych yn dweud, ‘Gad inni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’

18. Yn awr, ewch ymlaen â'ch gwaith; ac er na roddir gwellt i chwi mwyach, bydd raid i chwi gynhyrchu'r un nifer o briddfeini â chynt.”

19. Pan ddywedwyd nad oeddent i leihau'r nifer o briddfeini oedd i'w cynhyrchu mewn diwrnod, gwelodd swyddogion yr Israeliaid eu bod mewn helynt.

20. Wedi iddynt ymadael â Pharo, daeth Moses ac Aaron i'w cyfarfod,

21. a dywedodd y swyddogion wrthynt, “Boed i'r ARGLWYDD edrych arnoch a'ch barnu, am ichwi ein gwneud yn ffiaidd yng ngolwg Pharo a'i weision, a rhoi cleddyf iddynt i'n lladd.”

Moses yn Cwyno gerbron yr ARGLWYDD

22. Aeth Moses yn ôl at yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, pam yr wyt wedi peri'r fath helynt i'r bobl hyn? A pham yr anfonaist fi?

23. Oherwydd er pan ddeuthum at Pharo a llefaru yn dy enw, y mae wedi gwneud drwg i'r bobl hyn, ac nid wyt ti wedi gwneud dim o gwbl i achub eu cam.”