Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Duw yn Rhoi Gallu i Moses

1. Yna atebodd Moses, “Ni fyddant yn fy nghredu nac yn gwrando arnaf, ond byddant yn dweud, ‘Nid yw'r ARGLWYDD wedi ymddangos i ti.’ ”

2. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Beth sydd gennyt yn dy law?” Atebodd yntau, “Gwialen.”

3. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Tafl hi ar lawr.” Pan daflodd hi ar lawr, trodd yn sarff, a chiliodd Moses oddi wrthi.

4. Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael yn ei chynffon.” Estynnodd yntau ei law a gafael ynddi, a throdd yn wialen yn ei law.

5. “Gwna hyn,” meddai, “er mwyn iddynt gredu bod yr ARGLWYDD, Duw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob wedi ymddangos iti.”

6. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Rho dy law yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd ei law yn wahanglwyfus ac yn wyn fel yr eira.

7. Yna dywedodd Duw, “Rho hi'n ôl yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ôl yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd mor iach â gweddill ei gorff.

8. “Os na fyddant yn dy gredu nac yn ymateb i'r arwydd cyntaf,” meddai'r ARGLWYDD, “hwyrach y byddant yn ymateb i'r ail arwydd.

9. Ond os na fyddant yn ymateb i'r naill arwydd na'r llall, nac yn gwrando arnat, cymer ddŵr o'r Neil a'i dywallt ar y sychdir, a bydd y dŵr a gymeri o'r afon Neil yn troi'n waed ar y tir sych.”

10. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm.”

11. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD?

12. Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud.”

13. Ond dywedodd ef, “O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni.”

14. Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, “Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld.

15. Llefara di wrtho a gosod y geiriau yn ei enau, a rhof finnau help i'r ddau ohonoch i lefaru, a'ch dysgu beth i'w wneud.

16. Bydd ef yn llefaru wrth y bobl ar dy ran; bydd ef fel genau iti, a byddi dithau fel Duw iddo yntau.

17. Cymer y wialen hon yn dy law, oherwydd trwyddi hi y byddi'n gwneud yr arwyddion.”

Moses yn Dychwelyd i'r Aifft

18. Dychwelodd Moses at Jethro ei dad-yng-nghyfraith a dweud wrtho, “Gad imi fynd yn ôl at fy mhobl sydd yn yr Aifft i weld a ydynt yn dal yn fyw.” Dywedodd Jethro wrtho, “Rhwydd hynt iti.”

19. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, “Dos yn ôl i'r Aifft, oherwydd y mae pawb oedd yn ceisio dy ladd bellach wedi marw.”

20. Felly, cymerodd Moses ei wraig a'i feibion, a'u gosod ar asyn a mynd yn ôl i wlad yr Aifft, â gwialen Duw yn ei law.

21. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Wedi iti ddychwelyd i'r Aifft, rhaid iti wneud o flaen Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy allu; ond byddaf yn caledu ei galon ac ni fydd yn gollwng y bobl yn rhydd.

22. Llefara wrth Pharo, ‘Dyma a ddywed yr ARGLWYDD: Israel yw fy mab cyntafanedig,

23. ac yr wyf yn dweud wrthyt am ollwng fy mab yn rhydd er mwyn iddo f'addoli, ond gwrthodaist ei ollwng yn rhydd, felly fe laddaf dy fab cyntafanedig di.’ ”

24. Mewn llety ar y ffordd, cyfarfu'r ARGLWYDD â Moses a cheisio'i ladd.

25. Ond cymerodd Seffora gyllell finiog a thorri blaengroen ei mab a'i fwrw i gyffwrdd â thraed Moses, a dweud, “Yr wyt yn briod imi trwy waed.”

26. Yna gadawodd yr ARGLWYDD lonydd iddo. Dyna'r adeg y dywedodd hi, “Yr wyt yn briod trwy waed oherwydd yr enwaedu.”

27. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Dos i'r anialwch i gyfarfod â Moses.” Aeth yntau, a chyfarfod ag ef wrth fynydd Duw a'i gusanu.

28. Adroddodd Moses wrth Aaron y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'w ddweud, a'r holl arwyddion yr oedd wedi gorchymyn iddo eu gwneud.

29. Yna aeth Moses ac Aaron i gynnull ynghyd holl henuriaid pobl Israel,

30. a dywedodd Aaron wrthynt y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses; a gwnaeth yr arwyddion yng ngŵydd y bobl.

31. Credodd y bobl, a phan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymweld â phobl Israel a'i fod wedi edrych ar eu hadfyd, bu iddynt ymgrymu i lawr ac addoli.