Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Allor y Poethoffrwm

1. Gwnaeth allor y poethoffrwm hefyd o goed acasia; yr oedd yn sgwâr, yn bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led, a thri chufydd o uchder.

2. Gwnaeth gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rhoddodd haen o bres drosti.

3. Gwnaeth ar ei chyfer lestri, rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tân, pob un ohonynt o bres.

4. Gwnaeth hefyd ar gyfer yr allor rwyll o rwydwaith pres, a'i gosod dan ymyl yr allor fel ei bod yn ymestyn at hanner yr allor.

5. Gwnaeth bedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith, i gymryd y polion.

6. Gwnaeth y polion o goed acasia, a rhoi haen o bres drostynt; rhoddodd hwy drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.

7. Fe'i gwnaeth ag astellau, yn wag oddi mewn.

Y Noe Bres

8. Gwnaeth noe, a throed iddi, o ddrychau pres y gwragedd a oedd yn gwasanaethu wrth ddrws pabell y cyfarfod.

Cyntedd y Tabernacl

9. Yna gwnaeth y cyntedd. Ar yr ochr ddeheuol yr oedd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;

10. yr oedd hefyd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

11. Yr un modd, ar yr ochr ogleddol yr oedd llenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

12. Ar yr ochr orllewinol yr oedd llenni hanner can cufydd o hyd, ynghyd â deg colofn a deg troed; yr oedd bachau'r colofnau a'u cylchau o arian.

13. Yr oedd yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, yn hanner can cufydd.

14. Yr oedd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed,

15. a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd â thair colofn a thri throed.

16. Yr oedd yr holl lenni o amgylch y cyntedd o liain main wedi ei nyddu.

17. Yr oedd traed y colofnau o bres, ond yr oedd eu bachau a'u cylchau o arian; yr oedd pen uchaf y colofnau o arian, ac yr oedd holl golofnau'r cyntedd wedi eu cylchu ag arian.

18. Yr oedd y llen ym mhorth y cyntedd wedi ei brodio o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu; yr oedd yn ugain cufydd o hyd, a phum cufydd o led, ac yn cyfateb i lenni'r cyntedd.

19. Yr oedd y pedair colofn, a'u pedwar troed, o bres; y bachau, pen uchaf y colofnau, a'u cylchau, o arian.

20. Yr oedd holl hoelion y tabernacl a'r cyntedd oddi amgylch o bres.

Swm yr Aur, Arian a Phres ar gyfer y Tabernacl

21. Dyma'r holl bethau ar gyfer tabernacl y dystiolaeth a orchmynnodd Moses i'r Lefiaid eu gwneud dan gyfarwyddyd Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

22. Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda, oedd yn gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses;

23. gydag ef yr oedd Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, saer a chrefftwr, ac un a allai wnïo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main.

24. Cyfanswm yr aur a ddefnyddiwyd yn holl waith y cysegr, sef yr aur a offrymwyd, oedd naw ar hugain o dalentau, a saith gant tri deg sicl, yn ôl sicl y cysegr.

25. Cyfanswm yr arian a roddodd y rhai o'r cynulliad a gyfrifwyd oedd can talent, a mil saith gant saith deg a phum sicl, yn ôl sicl y cysegr,

26. sef beca yr un gan y rhai oedd yn ugain oed neu'n hŷn ac a rifwyd yn y cyfrifiad (hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, yw beca). Nifer y dynion oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant pum deg.

27. O'r can talent o arian y lluniwyd y traed ar gyfer y cysegr a'r gorchudd, can troed o'r can talent, sef talent i bob troed.

28. O'r mil saith gant saith deg a phum sicl, gwnaeth fachau ar gyfer y colofnau, a goreurodd ben uchaf y colofnau a'u cylchau.

29. Cyfanswm y pres yn yr offrwm oedd saith deg o dalentau, a dwy fil pedwar can sicl;

30. o'r rhain gwnaeth draed ar gyfer drws pabell y cyfarfod, yr allor bres a'r rhwyll bres oedd ar ei chyfer, ynghyd â holl lestri'r allor,

31. y traed ar gyfer y cyntedd o amgylch, a'r porth, a holl hoelion y tabernacl a'r hoelion o amgylch y cyntedd.