Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40

Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Selio'r Cyfamod

1. Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Tyrd i fyny at yr ARGLWYDD, ti ac Aaron, Nadab, Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel, ac addolwch o bell.

2. Moses yn unig sydd i nesáu at yr ARGLWYDD; nid yw'r lleill i ddod yn agos, ac nid yw'r bobl i fynd i fyny gydag ef.”

3. Pan ddaeth Moses, a mynegi i'r bobl holl eiriau'r ARGLWYDD a'r holl ddeddfau, atebodd y bobl i gyd yn unfryd, “Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD.”

4. Yna ysgrifennodd Moses holl eiriau'r ARGLWYDD. Cododd yn gynnar yn y bore, ac wrth droed y mynydd adeiladodd allor a deuddeg colofn yn cyfateb i ddeuddeg llwyth Israel.

5. Anfonodd lanciau o blith yr Israeliaid i offrymu poethoffrymau ac aberthu bustych yn heddoffrymau i'r ARGLWYDD.

6. Yna cymerodd Moses hanner y gwaed a'i roi mewn cawgiau, a thywallt yr hanner arall dros yr allor.

7. Cymerodd lyfr y cyfamod, ac ar ôl iddo'i ddarllen yng nghlyw'r bobl, dywedasant,

8. “Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD, a byddwn yn ufudd iddo.” Yna cymerodd Moses y gwaed a'i daenellu dros y bobl, a dweud, “Dyma waed y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi yn unol â'r holl eiriau hyn.”

9. Yna aeth Moses i fyny gydag Aaron, Nadab, Abihu a'r deg a thrigain o henuriaid Israel,

10. a gwelsant Dduw Israel; o dan ei draed yr oedd rhywbeth tebyg i balmant o faen saffir, yn ddisglair fel y nefoedd ei hun.

11. Ni osododd ei law ar benaethiaid pobl Israel; ond cawsant weld Duw a bwyta ac yfed.

Moses ar Fynydd Sinai

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Tyrd i fyny ataf i'r mynydd, ac aros yno; yna fe roddaf iti lechau o gerrig, gyda'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennais ar eu cyfer i'w hyfforddi.”

13. Felly cododd Moses a'i was, Josua, ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw.

14. Dywedodd wrth yr henuriaid, “Arhoswch yma amdanom nes inni ddod yn ôl atoch; bydd Aaron a Hur gyda chwi, ac os bydd gan rywun gŵyn, aed atynt hwy.”

15. Aeth Moses i fyny i'r mynydd, a gorchuddiwyd y mynydd gan gwmwl.

16. Arhosodd gogoniant yr ARGLWYDD ar Fynydd Sinai, a gorchuddiodd y cwmwl y mynydd am chwe diwrnod; yna ar y seithfed dydd, galwodd Duw ar Moses o ganol y cwmwl.

17. Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos yng ngolwg pobl Israel fel tân yn difa ar ben y mynydd.

18. Aeth Moses i ganol y cwmwl, a dringodd i fyny'r mynydd, a bu yno am ddeugain diwrnod a deugain nos.