1. Pam mae bywyd dyn ar y ddaear mor galed?Mae ei ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog –
2. fel caethwas yn dyheu am gysgod,neu was cyflog yn disgwyl am ei dâl.
3. Mis ar ôl mis o fyw dibwrpas,a nosweithiau diddiwedd o dristwch.
4. Pan dw i'n gorwedd i lawr, dw i'n meddwl,‘Pryd dw i'n mynd i fedru codi?’Mae'r nos yn llusgo'n araf,a dw i'n troi a throsi nes iddi wawrio.
5. Mae briwiau a chrachod dros fy nghorff i gyd;mae'r croen wedi cracio ac yn casglu.
6. Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd,ac yn dod i ben mewn anobaith.
7. O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd!Wna i ddim profi pleser byth eto.
8. Fydd y llygaid sy'n edrych arna i yn fy ngweld i ddim mwy;bydda i wedi diflannu mewn chwinciad.
9. Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu,dydy'r un sy'n mynd i'r bedd byth yn dod yn ôl i fyny;
10. fydd e byth yn mynd adre eto;a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio.
11. Felly, dw i ddim am gadw'n dawel!dw i'n mynd i rannu fy ngwewyr meddwl;dw i'n teimlo'n chwerw, a dw i'n mynd i gwyno.
12. Ai'r môr ydw i, neu anghenfil y dyfroedd,i ti orfod fy nghadw yn gaeth?
13. Pan dw i'n meddwl, ‘Bydd mynd i'r gwely'n gysur,a gorffwys yn gwneud i mi deimlo'n well,’
14. ti'n fy nychryn â breuddwydion,ac yn codi braw â hunllefau.
15. Byddai'n well gen i gael fy stranglo;mae marwolaeth yn well na bodolaeth.
16. Dw i wedi cael llond bol,does gen i ddim eisiau byw ddim mwy;Gad lonydd i mi, mae fy nyddiau'n mynd heibio fel mwg.
17. Beth ydy person dynol, i ti boeni amdano,a rhoi cymaint o sylw iddo?
18. Ti'n ei archwilio bob bore,ac yn ei brofi bob munud.
19. Wyt ti byth yn mynd i edrych i ffwrdd?Rho gyfle i mi lyncu fy mhoeryn!
20. Os dw i wedi pechu, beth dw i wedi ei wneud i ti,ti Wyliwr pobl?Pam dewis fi yn darged?Ydw i wedi troi'n gymaint o faich i ti?
21. Pam wnei di ddim maddau i mi am droseddu,a chael gwared â'm pechod?Achos bydda i'n gorwedd yn farw cyn pen dim;byddi'n edrych amdana i, ond bydda i wedi mynd.”