Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 29 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan mae rhywun yn troi'n ystyfnig ar ôl cael ei geryddu dro ar ôl tro,yn sydyn bydd e'n torri, a fydd dim gwella arno.

2. Pan mae pobl dda yn llwyddo, mae dathlu mawr,ond pan mae'r rhai drwg yn rheoli, mae pobl yn griddfan.

3. Mae'r un sy'n caru doethineb yn gwneud ei dad yn hapus,ond bydd y dyn sy'n cadw cwmni puteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.

4. Mae brenin yn gwneud gwlad yn sefydlog drwy weithredu'n gyfiawn,ond mae'r un sy'n trethu'r bobl yn drwm yn ei rhwygo i lawr.

5. Mae'r un sy'n seboni ei gyfaillyn taenu rhwyd i'w ddal ynddi.

6. Mae pobl ddrwg yn cael eu trapio gan eu drygioni,ond mae'r cyfiawn yn hapus ac yn canu'n braf.

7. Mae gan y cyfiawn gonsýrn am hawliau pobl dlawd;ond dydy pobl ddrwg ddim yn gweld pam y dylid poeni.

8. Mae'r rhai sy'n gwawdio pobl eraill yn creu helynt,ond mae'r doeth yn tawelu dig.

9. Pan mae person doeth yn mynd â ffŵl i gyfraith,bydd digon o arthio a gwawdio, ond dim heddwch!

10. Mae llofruddion yn casáu pobl onest,ond mae'r rhai cyfiawn yn eu hamddiffyn nhw.

11. Mae'r ffŵl yn colli ei limpyn yn lân,ond mae'r doeth yn rheoli ei dymer.

12. Pan mae llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,mae ei swyddogion i gyd yn ddrwg.

13. Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd:yr ARGLWYDD sydd wedi rhoi bywyd i'r ddau.

14. Os ydy brenin yn trin pobl dlawd yn degbydd ei orsedd yn ddiogel bob amser.

15. Mae gwialen a cherydd yn gwneud plentyn yn ddoeth,ond mae plentyn afreolus yn codi cywilydd ar ei fam.

16. Pan mae pobl ddrwg mewn grym, mae mwy o droseddu,ond bydd y cyfiawn yn gweld eu cwymp.

17. Disgybla dy blentyn i fod yn dawel dy feddwl;a bydd bywyd yn bleserus i ti.

18. Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl,ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith wedi eu bendithio'n fawr.

19. Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas;falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando.

20. Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n rhy barod ei dafod.

21. Pan mae caethwas wedi ei sbwylio ers yn blentyn,fydd dim ond trafferthion yn y diwedd.

22. Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn creu helynt,a'r un sy'n gwylltio'n hawdd yn troseddu'n aml.

23. Mae balchder yn arwain i gywilydd,ond bydd person gostyngedig yn cael ei anrhydeddu.

24. Mae rhywun sy'n helpu lleidr yn elyn iddo'i hun;mae'n cael ei alw i dystio, ond yn dweud dim.

25. Mae bod ag ofn pobl yn drap peryglus,ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn saff.

26. Mae llawer yn ceisio ennill ffafr llywodraethwr,ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i bobl.

27. Mae pobl dda yn casáu'r rhai sy'n gwneud drwg,ac mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn casáu'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.