Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 24 beibl.net 2015 (BNET)

1. Paid cenfigennu wrth bobl ddrwg,na bod eisiau cadw cwmni iddyn nhw.

2. Dŷn nhw'n meddwl am ddim byd ond traisa sut i wneud drwg i bobl eraill.

3. Mae'n cymryd gallu i adeiladu tŷ,a deall i osod seiliau cadarn iddo.

4. Mae angen gwybodaeth i lenwi'r ystafelloeddgyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd.

5. Mae person doeth yn gryf,a person deallus yn ddylanwadol.

6. Mae angen strategaeth i ymladd brwydr,a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth.

7. Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;does ganddo ddim i'w ddweud pan mae'r arweinwyr yn cyfarfod.

8. Mae'r sawl sy'n cynllunio i wneud drwgyn cael yr enw o fod yn gyfrwys.

9. Mae castiau'r ffŵl yn bechod,ac mae'n gas gan bobl berson sy'n gwawdio.

10. Os wyt ti'n un i golli hyder dan bwysau,mae gen ti angen mwy o nerth.

11. Achub y rhai sy'n cael eu llusgo i ffwrdd i'w lladd!Bydd barod i helpu'r rhai sy'n baglu i'r bedd.

12. Os byddi di'n dweud, “Ond doedden ni'n gwybod dim am y peth,”cofia fod yr Un sy'n pwyso'r galon yn gweld y gwir!Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e'n gwybod;a bydd pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu.

13. Fy mab, bwyta fêl – mae'n dda i ti;ac mae diliau mêl yn felys yn dy geg.

14. A'r un modd mae doethineb yn dda i ti.Os wyt ti'n ddoeth, byddi'n iawn yn y diwedd;a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.

15. Paid llechu fel lleidr tu allan i gartre dyn da;a paid torri i mewn i'w dŷ.

16. Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro,ond byddan nhw'n codi ar eu traed;tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr.

17. Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio;paid bod yn falch os ydy e'n cael ei fwrw i lawr,

18. rhag i'r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti;wedyn bydd e'n arbed y gelyn rhag y gosb.

19. Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;paid bod yn genfigennus ohonyn nhw –

20. does dim dyfodol iddyn nhw.Mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.

21. Fy mab, dylet ti barchu'r ARGLWYDD a'r brenin,a pheidio cadw cwmni'r rhai sy'n gwrthryfela.

22. Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw;pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi?

Casgliad o ddywediadau doeth

23. Dyma fwy o eiriau'r doethion:Dydy dangos ffafriaeth wrth farnu ddim yn beth da.

24. Bydd barnwr sy'n gollwng yr euog yn rhyddyn cael ei felltithio gan bobl,a'i gondemnio gan wledydd;

25. Ond bydd bywyd yn braf i'r un sy'n barnu'n deg;bydd e'n cael ei fendithio'n fawr.

26. Mae rhoi ateb gonestfel cusan ar y gwefusau.

27. Rho drefn ar dy waith tu allan,a chael y caeau'n barod i'w plannu,ac wedyn mynd ati i adeiladu dy dŷ.

28. Paid rhoi tystiolaeth yn erbyn rhywun heb achos da;a paid camarwain pobl.

29. Paid dweud, “Dw i'n mynd i dalu'r pwyth yn ôl!Bydda i'n dial arno am beth wnaeth e.”

30. Roeddwn i'n pasio heibio cae y dyn diog,a gwinllan un sydd heb sens;

31. Roedd drain wedi tyfu drosto,a chwyn ym mhobman,a'r wal gerrig o'i gwmpas wedi syrthio.

32. Wrth edrych a meddwl am y peth,roedd beth welais i yn dysgu gwers i mi:

33. “Ychydig bach mwy o gwsg;pum munud arall!Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”

34. Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog.