Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 6 beibl.net 2015 (BNET)

Paid bod yn ffŵl

1. Fy mab, dywed dy fod wedi gwarantu benthyciad rhywun,ac wedi cytuno i dalu ei ddyledion.

2. Os wyt mewn picil, wedi dy ddal gan dy eiriauac wedi dy rwymo gan beth ddwedaist ti,

3. dyma ddylet ti ei wneud i ryddhau dy hun(achos rwyt ti wedi chwarae i ddwylo'r person arall):Dos ato i bledio am gael dy ryddhau. Dos, a'i blagio!

4. Paid oedi! – Dim cwsg na gorffwysnes bydd y mater wedi ei setlo.

5. Achub dy hun, fel carw yn dianc rhag yr heliwr,neu aderyn yn dianc o law'r adarwr.

Paid bod yn ddiog

6. Ti'r diogyn, edrych ar y morgrugyn;astudia ei ffyrdd, a dysga sut i fod yn ddoeth.

7. Does ganddo ddim arweinydd,swyddog, na rheolwr,

8. ac eto mae'n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf,a storio'r hyn sydd arno'i angen adeg y cynhaeaf.

9. Am faint wyt ti'n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn?Pryd wyt ti'n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth?

10. “Ychydig bach mwy o gwsg,pum munud arall!Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”

11. Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog!

Beth sy'n digwydd i bobl ddrwg

12. Dydy'r un sy'n mynd o gwmpas yn twyllo,yn ddim byd ond cnaf drwg!

13. Mae'n wincio ar bobl drwy'r adeg,mae ei draed yn aflonydd,ac mae'n pwyntio bys at bawb.

14. Ei unig fwriad ydy creu helynt!Mae o hyd eisiau dechrau ffrae.

15. Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro!Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno!

16. Dyma chwe peth mae'r ARGLWYDD yn eu casáu;ac un arall sy'n ffiaidd ganddo:

17. llygaid balch, tafod celwyddog,dwylo sy'n tywallt gwaed pobl ddiniwed,

18. calon sy'n cynllwynio drwg,traed sy'n brysio i wneud drwg,

19. tyst sy'n dweud celwydd,a rhywun sy'n dechrau ffrae mewn teulu.

Rhybudd rhag anfoesoldeb rhywiol

20. Fy mab, gwna beth orchmynodd dy dad i ti;paid troi dy gefn ar beth ddysgodd dy fam i ti.

21. Cadw nhw ar flaen dy feddwl bob amser;gwisga nhw fel cadwyn am dy wddf.

22. Ble bynnag fyddi di'n mynd, byddan nhw'n dy arwain di;pan fyddi'n gorwedd i orffwys, byddan nhw'n edrych ar dy ôl di;pan fyddi di'n deffro, byddan nhw'n rhoi cyngor i ti.

23. Mae gorchymyn fel lamp,a dysgeidiaeth fel golau,ac mae cerydd a disgyblaeth yn arwain i fywyd.

24. Bydd yn dy gadw rhag y ferch ddrwg,a rhag y wraig anfoesol.

25. Paid gadael i'r awydd i'w chael hi afael ynot ti,na gadael iddi hi dy drapio di drwy fflyrtian â'i llygaid.

26. Mae putain yn dy adael gyda dim ond torth o fara;ond mae gwraig dyn arall yn cymryd popeth – gall gostio dy fywyd!

27. Ydy dyn yn gallu cario marwor poeth yn ei bocedheb losgi ei ddillad?

28. Ydy dyn yn gallu cerdded ar farworheb losgi ei draed?

29. Mae cysgu gyda gwraig dyn arall yr un fath;does neb sy'n gwneud hynny yn osgoi cael ei gosbi.

30. Does neb yn dirmygu lleidrsy'n dwyn am fod eisiau bwyd arno;

31. Ond os ydy e'n cael ei ddal, rhaid iddo dalu'n llawn;bydd yn colli popeth sydd ganddo.

32. Does gan y rhai sy'n godinebu ddim sens o gwbl;dim ond rhywun sydd am ddinistrio'i hun sy'n gwneud peth felly.

33. Bydd yn cael ei guro a'i gam-drin;a fydd y cywilydd byth yn ei adael.

34. Bydd gŵr y wraig yn wyllt gynddeiriog;fydd e'n dangos dim trugaredd pan ddaw'r cyfle i ddial.