Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 21 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae penderfyniadau'r brenin fel sianel ddŵr yn llaw'r ARGLWYDD;mae'n ei arwain i ble bynnag mae e eisiau.

2. Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn,ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion.

3. Mae cael rhywun yn gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn degyn well gan yr ARGLWYDD nag aberthau.

4. Mae snobyddiaeth a balchder– sy'n nodweddu pobl ddrwg – yn bechod.

5. Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled;ond dydy brys gwyllt ond yn arwain i dlodi.

6. Mae ffortiwn wedi ei ennill drwy ddweud celwyddfel tarth sy'n diflannu – magl i farwolaeth.

7. Mae pobl ddrwg yn cael eu llusgo i ffwrdd gan eu trais,maen nhw'n gwrthod gwneud beth sy'n iawn.

8. Mae pobl yn gallu bod yn dwyllodrus ac yn rhyfedd,ond mae'r sawl sy'n bur yn gwneud beth sy'n iawn.

9. Mae byw mewn cornel yn yr atigyn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.

10. Mae person drwg yn ysu am gael gwneud drwg,ac yn dangos dim trugaredd at bobl eraill.

11. Pan mae'r gwawdiwr yn cael ei gosbi mae'r gwirion yn dysgu gwers;ond mae'r person doeth yn dysgu wrth wrando.

12. Mae'r Duw cyfiawn yn gweld cartrefi pobl ddrwg;bydd yn dod â dinistr arnyn nhw.

13. Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri'r tlawd,bydd e'n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb.

14. Mae rhodd cyfrinachol yn tawelu llid,a cildwrn yn tewi'r un sydd wedi colli ei dymer.

15. Mae'r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy'n iawn,ond mae'n ddychryn i bobl ddrwg.

16. Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawnyn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion.

17. Bydd y sawl sydd ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd;dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog.

18. Bydd y drwg yn talu'r pris yn lle'r cyfiawn;a'r twyllwr yn diodde yn lle'r un sy'n onest.

19. Mae'n well byw mewn tir anialna gorfod diodde gwraig gecrus a blin.

20. Mae'r person doeth yn cynilo,ond mae person ffôl yn gwario'r cwbl sydd ganddo.

21. Mae'r un sy'n ceisio gwneud beth sy'n iawn a bod yn garedigyn cael bywyd, llwyddiant ac enw da.

22. Mae dyn doeth yn gallu concro dinas sydd â byddin bwerusa bwrw i lawr y gaer oedden nhw'n teimlo'n saff ynddi.

23. Mae'r person sy'n gwylio beth mae'n ei ddweud ac yn ffrwyno'i dafodyn cadw ei hun allan o drafferthion.

24. Mae'r person balch, haerllug– yr un sy'n gwawdio pobl eraill –yn gwneud pethau cwbl ddigywilydd.

25. Mae blys person diog yn ddigon i'w ladd,am ei fod yn gwrthod gweithio â'i ddwylo.

26. Mae'n dyheu ac yn ysu am fwy drwy'r adeg,tra mae'r person cyfiawn yn rhoi yn ddi-baid.

27. Mae'n gas gan Dduw aberth sy'n cael ei gyflwyno gan rywun drwg,yn enwedig os ydy ei fwriad wrth ddod ag e yn ddrwg.

28. Mae tyst celwyddog yn cael ei dewi;y tyst oedd wedi gwrando sy'n cael y gair ola.

29. Mae person drwg yn smalio ac yn bwrw yn ei flaen;ond mae'r person gonest yn meddwl ble mae'n mynd.

30. Does dim doethineb na deall na chyngorsy'n gallu ennill y dydd ar yr ARGLWYDD.

31. Mae milwyr wedi paratoi meirch ar gyfer y rhyfel,ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi'r fuddugoliaeth.