1. Fy mab, os byddi di'n derbyn beth dw i'n ddweud,ac yn trysori'r hyn dw i'n ei orchymyn;
2. Os gwnei di wrando'n astud ar ddoethineb,a cheisio deall yn iawn;
3. Os byddi di'n gofyn am gyngor doeth,ac yn awyddus i ddeall yn iawn;
4. Os byddi'n ceisio doethineb fel arianac yn chwilio amdani fel am drysor wedi ei guddio,
5. yna byddi di'n deall sut i barchu'r ARGLWYDDa byddi'n dod i wybod am Dduw.
6. Achos yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb;beth mae e'n ddweud sy'n rhoi gwybodaeth a deall.
7. Mae'n rhoi llwyddiant i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn –ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy'n byw yn onest.
8. Mae'n gwneud yn siŵr fod cyfiawnder yn llwyddo,ac mae'n gwarchod y rhai sy'n ffyddlon iddo.
9. Byddi'n deall beth sy'n iawn, yn gytbwys, ac yn deg– ie, popeth sy'n dda.
10. Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwla gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di,
11. bydd y ffordd wnei di ei dilyn yn saff,a bydd deall yn dy warchod.
12. Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg,a rhag y bobl hynny sy'n twyllo o hyd –
13. y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonesti ddilyn llwybrau tywyll.
14. Maen nhw wrth eu boddau yn gwneud drwgac yn mwynhau twyllo –
15. Pobl anonest ydyn nhw,ac maen nhw'n dilyn ffyrdd troellog.
16. Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol,yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg,
17. yr un sydd wedi gadael ei gŵr,a diystyru'r addewidion wnaeth hi o flaen Duw.
18. Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth;mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw.
19. Does neb sy'n mynd ati hi'n gallu troi yn ôl,a chael eu hunain ar lwybr bywyd unwaith eto.
20. Dilyn di ffordd y rhai sy'n byw yn dda,cadw di at lwybrau'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
21. Y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn fydd yn byw yn y tir,y rhai sy'n byw'n onest fydd yn cael aros yno.