Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 7 beibl.net 2015 (BNET)

Ffolineb bod yn anffyddlon

1. Fy mab, gwna beth dw i'n ddweud;a thrysori'r hyn dw i'n ei orchymyn.

2. Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da;paid tynnu dy lygad oddi ar beth dw i'n ddysgu.

3. Cadw nhw fel modrwy ar dy fys;ysgrifenna nhw ar lech dy galon.

4. Dywed wrth ddoethineb, “Ti fel chwaer i mi,”a gwna gyngor doeth yn ffrind gorau.

5. Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol;rhag yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg.

6. Roeddwn i'n sefyll yn y tŷ,ac yn edrych allan o'r ffenest.

7. Gwelais fachgen ifanc a dim sens ganddogyda chriw gwyllt o bobl ifanc.

8. Roedd yn croesi'r stryd at y groesfforddsy'n arwain at ei thŷ hi.

9. Roedd hi'n hwyr yn y dydd,ac yn dechrau nosi a thywyllu.

10. Yn sydyn dyma'r wraig yn dod allan i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain – roedd ei bwriad hi'n amlwg.

11. (Dynes swnllyd, ddigywilydd,sydd byth yn aros adre.

12. Ar y stryd un funud, ar y sgwâr y funud nesa,yn loetran ar bob cornel.)

13. Mae hi'n gafael yn y bachgen a'i gusanu,ac yn dweud yn bowld:

14. “Tyrd, mae gen i fwyd adre – cig yr offrwm rois i;dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen.

15. A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di –roeddwn i'n edrych amdanat ti, a dyma ti!

16. Dw i wedi paratoi'r gwely!Mae yna gynfasau glân arno,a chwilt lliwgar hyfryd o'r Aifft.

17. Mae'n arogli'n hyfryd o bersawr –myrr, aloes, a sinamon.

18. Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol;mwynhau ein hunain yn caru drwy'r nos.

19. Dydy'r gŵr ddim adre –mae e wedi mynd ar daith bell.

20. Mae e wedi mynd gyda'i arian, ar fusnes,a fydd e ddim yn ôl tan ddiwedd y mis.”

21. Dyma hi'n llwyddo i'w berswadio;roedd wedi ei ddenu gyda'i fflyrtian.

22. Dyma'r llanc yn mynd ar ei hôl ar unwaith,fel ych yn mynd i'r lladd-dy,neu garw yn neidio i drap

23. cyn i saeth ei drywanu!Roedd fel aderyn wedi hedfan yn syth i'r rhwyd,heb sylweddoli ei fod yn mynd i golli ei fywyd.

24. Nawr gwrandwch arna i, fechgyn;gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud:

25. Peidiwch hyd yn oed meddwl amdani;peidiwch mynd yn agos ati.

26. Mae hi wedi achosi i lawer un syrthio;mae yna fyddin o ddynion cryf wedi diodde!