1. Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ;ac mae wedi naddu saith colofn iddo.
2. Mae hi wedi paratoi gwledd,cymysgu'r gwin,a gosod y bwrdd.
3. Mae hi wedi anfon ei morynion allani alw ar bobl drwy'r dre.
4. Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,“Dewch yma, chi bobl wirion!
5. Dewch i fwyta gyda mi,ac yfed y gwin dw i wedi ei gymysgu.
6. Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw;dechreuwch gerdded ffordd gall.”
7. Ceisia gywiro rhywun balch sy'n gwawdio a cei lond ceg!Cerydda rhywun drwg a byddi'n cael dy gam-drin.
8. Cerydda'r un balch sy'n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di;ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti.
9. Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach;dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy.
10. Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth,ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.
11. Trwof fi byddi di'n cael byw yn hir;byddi'n cael blynyddoedd ychwanegol.
12. Os wyt ti'n ddoeth, mae hynny'n beth da i ti;ond os wyt ti'n falch, ti fydd yn wynebu'r canlyniadau.
13. Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn;mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd.
14. Mae hi'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre.
15. Mae hi'n galw ar y rhai sy'n pasio heibioac yn meindio eu busnes eu hunain.
16. Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,“Dewch yma, chi bobl wirion!
17. Mae dŵr sydd wedi ei ddwyn yn felys;a bara sy'n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!”