Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan welodd Balaam fod yr ARGLWYDD yn dymuno bendithio Israel, nid aeth i arfer dewiniaeth, fel cynt; yn hytrach, trodd ei wyneb tua'r diffeithwch.

2. Cododd ei olwg a gweld yr Israeliaid yn gwersyllu yn ôl eu llwythau. Yna daeth ysbryd Duw arno,

3. a llefarodd ei oracl a dweud:“Gair Balaam fab Beor,gair y gŵr yr agorir ei lygaid

4. ac sy'n clywed geiriau Duw,yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:

5. Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob,a'th wersylloedd, O Israel!

6. Y maent yn ymestyn fel palmwydd,fel gerddi ar lan afon,fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD,fel cedrwydd wrth ymyl dyfroedd.

7. Tywelltir dŵr o'i ystenau,a bydd digon o ddŵr i'w had.Bydd ei frenin yn uwch nag Agag,a dyrchefir ei frenhiniaeth.

8. Daeth Duw ag ef allan o'r Aifft,ac yr oedd ei nerth fel nerth ych gwyllt;bydd yn traflyncu'r cenhedloedd sy'n elynion iddo,gan ddryllio eu hesgyrn yn ddarnau,a'u gwanu â'i saethau.

9. Pan gryma, fe orwedd fel llew,neu lewes; pwy a'i deffry?Bydded bendith ar bawb a'th fendithia,a melltith ar bawb a'th felltithia.”

10. Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, “Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn.

11. Felly ffo yn awr i'th le dy hun; addewais dy anrhydeddu, ond fe gadwodd yr ARGLWYDD yr anrhydedd oddi wrthyt.”

12. Dywedodd Balaam wrth Balac, “Oni ddywedais wrth y negeswyr a anfonaist ataf,

13. ‘Pe rhoddai Balac imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allwn fynd yn groes i air yr ARGLWYDD a gwneud na da na drwg o'm hewyllys fy hun; rhaid imi lefaru'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD’?

14. Yn awr, fe af at fy mhobl fy hun; tyrd, ac fe ddywedaf wrthyt beth a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyfodol.”

Pedwaredd Neges Balaam

15. Yna llefarodd ei oracl a dweud:“Gair Balaam fab Beor,gair y gŵr yr agorir ei lygaid

16. ac sy'n clywed geiriau Duw,yn gwybod meddwl y Goruchaf,yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:

17. Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr;edrychaf arno, ond nid yw'n agos.Daw seren allan o Jacob,a chyfyd teyrnwialen o Israel;fe ddryllia dalcen Moab,a difa holl feibion Seth.

18. Bydd Edom yn cael ei meddiannu,bydd Seir yn feddiant i'w gelynion,ond bydd Israel yn gweithredu'n rymus.

19. Daw llywodraethwr allan o Jacoba dinistrio'r rhai a adawyd yn y dinasoedd.”

Negesau Olaf Balaam

20. Yna edrychodd ar Amalec, a llefarodd ei oracl a dweud:“Amalec oedd y blaenaf ymhlith y cenhedloedd,ond caiff yntau, yn y diwedd, ei ddinistrio.”

21. Yna edrychodd ar y Cenead, a llefarodd ei oracl a dweud:“Y mae dy drigfan yn gadarn,a'th nyth yn ddiogel mewn craig;

22. eto bydd Cain yn cael ei anrheithio.Am ba hyd y bydd Assur yn dy gaethiwo?”

23. Llefarodd ei oracl a dweud:“Och! Pwy fydd byw pan wna Duw hyn?

24. Daw llongau o gyffiniau Chittim,gan orthrymu Assur ac Eber;cânt hwythau hefyd eu dinistrio.”

25. Yna cododd Balaam a dychwelodd adref, ac aeth Balac hefyd ymaith.