Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Addunedau

1. Dywedodd Moses wrth benaethiaid llwythau pobl Israel, “Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD:

2. Os bydd dyn yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n tyngu llw, ac yn ei roi ei hun dan ymrwymiad, nid yw i dorri ei air, ond y mae i wneud y cyfan a addawodd.

3. Os bydd gwraig yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, ac yn ei rhoi ei hun dan ymrwymiad, a hithau'n ifanc a heb adael cartref ei thad,

4. ac yntau'n clywed am ei hadduned a'i hymrwymiad, ond heb ddweud dim wrthi, yna bydd pob adduned a phob ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll.

5. Ond os bydd ei thad yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, ni fydd unrhyw adduned nac ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll; bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi gan i'w thad ei gwahardd.

6. Os bydd gwraig briod yn gwneud adduned neu'n ei rhoi ei hun dan ymrwymiad yn fyrbwyll,

7. a'i gŵr yn clywed am hynny ond heb ddweud dim wrthi, yna bydd ei haddunedau a'i hymrwymiadau yn sefyll.

8. Ond os bydd ei gŵr yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, y mae i ddiddymu ei hadduned a'i hymrwymiad byrbwyll, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.

9. Bydd pob adduned a wneir gan weddw neu gan un a gafodd ysgariad, a phob ymrwymiad o'i heiddo, yn sefyll.

10. Os gwnaeth adduned, neu dyngu llw i'w rhoi ei hun dan ymrwymiad, tra bu yn nhŷ ei gŵr,

11. ac yntau'n clywed am hynny ond heb ddweud dim wrthi i'w gwahardd, bydd pob adduned a phob ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll.

12. Ond os bydd ei gŵr, pan glyw amdanynt, yn eu diddymu'n llwyr, yna ni fydd unrhyw adduned a wnaeth nac unrhyw ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll; y mae ei gŵr wedi eu diddymu, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.

13. Gall y gŵr gadarnhau neu ddiddymu unrhyw adduned neu ymrwymiad o eiddo'i wraig i ymddarostwng.

14. Os bydd ei gŵr, o ddydd i ddydd, yn ymatal rhag dweud dim wrthi, yna bydd yn cadarnhau pob adduned a phob ymrwymiad o eiddo'i wraig; bydd yn eu cadarnhau am na ddywedodd ddim wrthi pan glywodd amdanynt.

15. Ond os bydd yn eu diddymu'n llwyr wedi iddo glywed amdanynt, bydd ef yn atebol am ei throsedd.”

16. Dyma'r deddfau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ynglŷn â gŵr a'i wraig, a thad a'i ferch ifanc sydd heb adael cartref ei thad.