Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Dyletswyddau Meibion Cohath

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

2. “Gwna gyfrifiad o'r rhai ymhlith y Lefiaid sy'n feibion Cohath, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd,

3. a chynnwys bawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.

4. Dyma fydd gwaith meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod: gofalu am y pethau mwyaf cysegredig.

5. Pan fydd yn amser symud y gwersyll, bydd Aaron a'i feibion yn mynd i mewn a thynnu'r gorchudd, a'i daenu dros arch y dystiolaeth;

6. yna byddant yn rhoi gorchudd o grwyn morfuchod drosti, a thros hwnnw liain o sidan sy'n las drwyddo, a gosod y polion yn eu lle.

7. Yna y maent i gymryd lliain arall o sidan glas, a'i daenu dros fwrdd y bara gosod, a rhoi ar y bwrdd y platiau a'r dysglau, y ffiolau a'r costrelau i dywallt y diodoffrwm; bydd y bara yn aros bob amser ar y bwrdd.

8. Y maent i roi drostynt liain o ysgarlad, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.

9. Byddant hefyd yn cymryd lliain glas a gorchuddio'r canhwyllbren sy'n goleuo, ei lampau, ei efeiliau a'i gafnau, a'r holl lestri sy'n dal yr olew ar ei gyfer.

10. Yna rhoddant y canhwyllbren gyda'i holl lestri mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'i osod ar y trosolion.

11. Wedyn byddant yn rhoi lliain glas dros yr allor aur, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.

12. Cymerant yr holl lestri a ddefnyddir yng ngwasanaeth y cysegr, a'u rhoi mewn lliain glas, a rhoi hwnnw mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'u gosod ar y trosolion.

13. Y maent i dynnu'r lludw oddi ar yr allor a'i gorchuddio â lliain porffor,

14. cyn gosod arni'r holl lestri a ddefnyddir yn y gwasanaeth, sef y pedyll tân, y ffyrch, y rhawiau, y cawgiau, a holl lestri'r allor; yna rhoddant orchudd o grwyn morfuchod drosti, a gosod y polion yn eu lle.

15. Wedi i Aaron a'i feibion orffen rhoi'r gorchudd dros y cysegr a'i holl ddodrefn, a'r gwersyll yn barod i gychwyn, daw meibion Cohath i'w cludo, ond ni fyddant yn cyffwrdd â'r pethau cysegredig, rhag iddynt farw. Meibion Cohath sydd i gludo'r pethau yn ymwneud â phabell y cyfarfod.

16. “Eleasar fab Aaron yr offeiriad fydd yn gofalu am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth peraidd, y bwydoffrwm rheolaidd ac olew'r eneinio; ac ef fydd yn goruchwylio'r tabernacl cyfan a'i gynnwys, y cysegr a'i lestri.”

17. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

18. “Peidiwch â gadael i lwyth teuluoedd y Cohathiaid gael eu torri ymaith o blith y Lefiaid.

19. Dyma a wnewch â hwy, os ydynt am fyw ac nid marw wrth ddynesu at y pethau mwyaf cysegredig: gadewch i Aaron a'i feibion fynd i mewn a rhoi i bob un ei waith a'i orchwyl;

20. ond nid yw'r Cohathiaid i edrych o gwbl ar y pethau cysegredig, rhag iddynt farw.”

Dyletswyddau'r Gersoniaid

21. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

22. “Gwna gyfrifiad hefyd o feibion Gerson, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd;

23. yr wyt i gyfrif pawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.

24. Dyma fydd dyletswydd a gorchwyl teuluoedd y Gersoniaid:

25. cludo llenni'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ei len a'r gorchudd o grwyn morfuchod sydd drosto, y gorchudd sydd dros ddrws pabell y cyfarfod,

26. llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws porth y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl a'r allor; hefyd eu rhaffau, yr holl offer ynglŷn â'u gwasanaeth, a'r holl waith sy'n gysylltiedig â hwy.

27. Bydd holl wasanaeth y Gersoniaid, boed yn gludo neu unrhyw orchwyl arall, dan awdurdod Aaron a'i feibion; eu cyfrifoldeb hwy fydd gofalu am yr holl gludo.

28. Dyma'r gwaith a wna teuluoedd y Gersoniaid ym mhabell y cyfarfod dan oruchwyliaeth Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

Dyletswyddau'r Merariaid

29. “Yr wyt i gyfrif meibion Merari yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd,

30. yn cynnwys pawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.

31. Dyma fydd eu gwasanaeth hwy ym mhabell y cyfarfod: gofalu am gludo fframiau'r tabernacl, ei farrau, ei golofnau a'i draed,

32. a cholofnau'r cyntedd o amgylch gyda'u traed, eu hoelion a'u rhaffau, a'r holl offer ynglŷn â'u gwasanaeth; yr ydych i nodi wrth eu henwau y pethau y maent i'w cludo.

33. Fe wna teuluoedd y Merariaid y cyfan ym mhabell y cyfarfod dan oruchwyliaeth Ithamar fab Aaron yr offeiriad.”

Cyfrifiad y Lefiaid

34. Felly cyfrifodd Moses, Aaron ac arweinwyr y cynulliad feibion y Cohathiaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd.

35. Cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,

36. wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau, oedd dwy fil saith gant a phum deg.

37. Dyma nifer yr holl rai o deuluoedd y Cohathiaid oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, ac a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses.

38. Dyma nifer y Gersoniaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd:

39. cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,

40. wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, oedd dwy fil chwe chant a thri deg.

41. Dyma nifer y rhai o deuluoedd y Gersoniaid oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, ac a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD.

42. Dyma nifer teuluoedd y Merariaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd:

43. cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,

44. wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau, oedd tair mil a dau gant.

45. Dyma nifer y rhai o dylwythau'r Merariaid a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses.

46. Felly cyfrifodd Moses, Aaron ac arweinwyr Israel yr holl Lefiaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd.

47. Cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i wneud y gwaith a chludo'r pethau ym mhabell y cyfarfod

48. oedd wyth mil pum cant ac wyth deg.

49. Yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses, gosodwyd i bob un ei waith a'i orchwyl, a chyfrifwyd hwy ganddo.