1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2. “Gwna ddau drwmped o arian gyr, a defnyddia hwy i alw'r cynulliad ynghyd, er mwyn i'r gwersyll gychwyn ar ei daith.
3. Os cenir y ddau drwmped, bydd yr holl gynulliad yn ymgasglu atat wrth ddrws pabell y cyfarfod;
4. ond os un ohonynt a genir, yna yr arweinwyr yn unig, sef penaethiaid llwythau Israel, fydd yn ymgasglu atat.
5. Pan roddir bloedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y dwyrain yn cychwyn ar eu taith,
6. a phan roddir yr ail floedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y de yn cychwyn.
7. Fe roddir bloedd pryd bynnag y byddant yn cychwyn ar eu taith.
8. Pan yw'r cynulliad i ymgasglu ynghyd, fe genir y trwmped, ond ni roddir bloedd. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r trwmpedau, a bydd hyn yn ddeddf i'w chadw gennych am byth, dros y cenedlaethau.
9. Pan fyddwch yn mynd i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y rhai sy'n eich gorthrymu, rhowch floedd a chanu'r trwmpedau, er mwyn i'r ARGLWYDD eich Duw gofio amdanoch, a'ch achub rhag eich gelynion.
10. Hefyd, ar ddydd o lawenydd, ar eich gwyliau penodedig, ac ar ddechrau pob mis, canwch y trwmpedau uwchben eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau; byddant yn eich dwyn i gof gerbron eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”
11. Ar yr ugeinfed dydd o'r ail fis o'r ail flwyddyn, cododd y cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth,
12. a chychwynnodd pobl Israel yn gwmnïau ar eu taith o anialwch Sinai; yna arhosodd y cwmwl yn anialwch Paran.
13. Felly cychwynasant allan am y tro cyntaf ar orchymyn yr ARGLWYDD trwy Moses.
14. Minteioedd gwersyll Jwda oedd y rhai cyntaf i gychwyn dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Nahson fab Amminadab.
15. Dros lu llwyth pobl Issachar yr oedd Nethanel fab Suar,
16. a thros lu llwyth pobl Sabulon yr oedd Eliab fab Helon.
17. Wedi tynnu'r tabernacl i lawr, fe gychwynnodd meibion Gerson a meibion Merari, gan mai hwy oedd yn cario'r tabernacl.
18. Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll Reuben dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisur fab Sedeur.
19. Dros lu llwyth pobl Simeon yr oedd Selumiel fab Surisadai,
20. a thros lu llwyth pobl Gad yr oedd Eliasaff fab Reuel.
21. Yna cychwynnodd y Cohathiaid, gan gludo'r pethau cysegredig, a chodwyd y tabernacl cyn iddynt hwy gyrraedd.
22. Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Effraim dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisama fab Ammihud.
23. Dros lu llwyth pobl Manasse yr oedd Gamaliel fab Pedasur,
24. a thros lu llwyth pobl Benjamin yr oedd Abidan fab Gideoni.
25. Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Dan, y gwersyll olaf un, dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Ahieser fab Ammisadai.
26. Dros lu llwyth pobl Aser yr oedd Pagiel fab Ocran,
27. a thros lu llwyth pobl Nafftali yr oedd Ahira fab Enan.
28. Dyma drefn pobl Israel wrth iddynt gychwyn allan yn ôl eu lluoedd.
29. Dywedodd Moses wrth Hobab fab Reuel y Midianiad, tad-yng-nghyfraith Moses, “Yr ydym yn mynd i'r lle yr addawodd yr ARGLWYDD ei roi inni; tyrd gyda ni, a byddwn yn garedig wrthyt, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau da i Israel.”
30. Ond atebodd ef, “Nid wyf am ddod; af yn hytrach i'm gwlad fy hun ac at fy mhobl fy hun.”
31. Dywedodd Moses, “Paid â'n gadael, oherwydd fe wyddost ti lle cawn wersyllu yn yr anialwch, a gelli ein harwain.
32. Os doi gyda ni, fe gei ran yn y pethau da a wna'r ARGLWYDD drosom, a byddwn yn garedig wrthyt.”
33. Felly cychwynasant o fynydd yr ARGLWYDD ar daith dridiau, ac yr oedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen ar hyd y daith i geisio lle iddynt orffwys.
34. Yr oedd cwmwl yr ARGLWYDD uwchben yn ystod y dydd wrth iddynt gychwyn o'r gwersyll.
35. Pan gychwynnai'r arch allan, byddai Moses yn dweud, “Cod, ARGLWYDD, gwasgar d'elynion, a boed i'r rhai sy'n dy gasáu ffoi o'th flaen.”
36. A phan ddôi'r arch i orffwys, byddai'n dweud, “Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiynau Israel.”